Mae Homestep yn helpu unigolion sy’n dymuno prynu tŷ am y tro cyntaf i gymryd y cam cyntaf yn y broses trwy gynnig cartrefi newydd sbon am bris fforddiadwy.
I weld y cartrefi sydd ar gael ar hyn o bryd, ewch i wefan HomefinderRCT.
Mae modd cofrestru ar gyfer rhestr bostio Ceisio Cartref (Homestep) yma.
Mae Homestep yn ffordd o wneud prynu cartref yn fwy fforddiadwy. Mae'n cael ei weithredu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a'i ddarparu mewn partneriaeth ag adeiladwyr tai preifat.
Beth yw Tai Homestep?
Mae'r rhain yn dai newydd lle mae'r Cyngor wedi gweithio gyda'r datblygwr er mwyn eu gwneud yn fwy fforddiadwy i'w prynu. Rydych chi'n prynu'r tŷ am ganran o'i werth llawn ar y farchnad (70% fel arfer). Mae'r Cyngor yn cadw gweddill gwerth rhydd-ddaliadol y tŷ (h.y. 30%) drwy ail arwystl gyda'r Gofrestrfa Tir. Mae hyn yn golygu eich bod chi angen blaendal a morgais am ganran o werth yr eiddo yn unig.
Beth am ganran y Cyngor?
Fyddwch chi ddim yn talu rhent na llog ar yr arwystl sy'n cael ei gadw gan y Cyngor a does dim trerfyn amser i chi ad-dalu'r ganran. Serch hynny, os byddwch chi'n gwerthu'r eiddo yn y dyfodol, byddwch chi'n ad-dalu'r ganran sydd wedi'i cadw gan y Cyngor, hynny yw, canran o'i werth ar y farchnad adeg y gwerthu. Fel arall, fe gewch chi brynu arwystl y Cyngor ar ôl cyfnod o o leiaf blwyddyn am y ganran o'i werth ar y farchnad agored ar y pryd.
Er enghraifft, os yw gwerth yr eiddo ar y farchnad agored yn £120,00, byddwch chi'n talu 70% ohono, h.y. £84,000. Pe byddech chi'n ailwerthu'r eiddo yn y dyfodol, a'i werth bryd hynny oedd £150,000, byddech chi'n derbyn £105,00 ond yn gorfod talu £45,000 i'r Cyngor.
Oes unrhyw gyfyngiadau?
Er mwyn gallu gwneud cais am gynllun 'Homestep', rhaid i chi gwrdd â'r meini prawf canlynol:
- yn 'brynwr tro cyntaf' (h.y. ddim yn berchen ar dŷ ar hyn o bryd)
- Rhaid i chi fod dros 18 oed
- Rhaid bod gennych chi basbort y Deyrnas Unedig neu Ganiatâd Diderfyn i aros yn y Deyrnas Unedig
- Rhaid eich bod chi'n methu â fforddio prynu'r eiddo am ei werth llawn ar y farchnad
- Rhaid eich bod chi'n gallu cael morgais gyda benthyciwr morgeisi addas (gyda blaendal fel arfer)
- Rhaid bod gyda chi ddigon o gynilion i allu talu costau prynu tŷ am 70% o'i werth ar y farchnad, megis costau cyfreithwyr, trefnu morgais a ffioedd arolwg
Beth yw'r cam nesaf?
Y cwbl sydd rhaid i chi'i wneud yw aros nes bod datblygiad newydd o dai ar gael, a rhoi gwybod i ni fod diddordeb gennych chi mewn prynu eiddo ar y safle hwnnw! Y ffordd fwyaf rhwydd o gael yr wybodaeth ddiweddaraf yw ymuno â'n rhestr dderbynwyr. Byddwch chi wedyn yn derbyn negeseuon e-bost ac yn cael gwybod pan fydd eiddo newydd ar gael drwy Gynllun Homestep yn syth (oni bai eich bod chi'n nodi y byddai'n well gennych chi i ni gysylltu â chi drwy'r post). Mae eiddo, hefyd, yn cael ei hysbysebu ar wefan Homestep, drwy adeiladwyr tai ac mewn cymunedau lleol.
Mae eiddo fel arfer yn cael ei hysbysebu o leiaf 3 mis cyn iddo fod yn barod. Fel arfer, mae tai newydd yn cael eu gwerthu cyn iddyn nhw gael eu hadeiladu, sy'n golygu y bydd disgwyl i chi ddewis eiddo o'r cynlluniau llawr manwl a chynllun y safle. Dylai fod cyfle i chi weld y tŷ, neu dŷ tebyg ar y safle, cyn cwblhau'r broses prynu.
Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi roi gwybod bod diddordeb gennyf fi mewn prynu tŷ ar y safle?
Bydd angen i'r Cyngor wirio'ch amgylchiadau ariannol cyn cynnig cartref i chi. Mae modd cynnal y ‘Cyfweliad Fforddiadwyedd’ dros y ffôn neu wyneb i wyneb yn swyddfa'r Cyngor yn Nhŷ Sardis, Sardis Road, Pontypridd CF37 1DU
Does dim byd i boeni amdano – y cwbl fydd angen i ni'i wneud yw sicrhau nad ydych chi'n benthyg mwy na rydych chi'n gallu talu yn ôl, a dod i benderfyniad ynglŷn ag a fyddech chi'n gallu fforddio prynu tŷ tebyg am bris llawn y farchnad. Fel canllaw cyffredinol, rydyn ni'n argymell na ddylech chi wario dros 35% o'ch incwm misol net (ar ôl treth a didyniadau) ar eich ad-daliadau morgais.
Beth fydd yn digwydd os yw'r Cyngor yn fodlon bwrw 'mlaen ar ôl y Cyfweliad Fforddiadwyedd?
Byddwch chi'n cael dewis y llain sy'n well gennych chi a bydd y Cyngor yn rhoi llythyr enwebu i chi. Bydd gofyn i chi fynd â chopi o'r llythyr yma i'r safle datblygu a thalu ffi i gadw'ch cartref newydd. £500 yw'r ffi yma fel arfer, ond fe fydd hyn yn cael ei gadarnhau ymlaen llaw. Sylwch nad oes modd ad-dalu'r ffi yma.
Yna, bydd gofyn i chi fynd yn ôl i'ch darparwr morgeisi neu'ch Ymgynghorydd Ariannol Annibynnol i gwblhau'ch cynnig morgais, a chysylltu â chyfreithiwr i weithredu ar eich rhan.
Cysylltwch â ni
Strategaeth Dai
Ffôn: 01443 281136