Skip to main content
 

Cymorth Cynnal a Chadw ac Atgyweirio

Mae'r Grant Cymorth Cynnal a Chadw ac Atgyweirio ar gael i berchnogion tai sydd dros 60 oed er mwyn helpu i dalu am atgyweiriadau hanfodol i'w heiddo. 

Meini Prawf ar gyfer y grant  

Mae'r grant Cymorth Cynnal a Chadw ac Atgyweirio ar gael i unigolion dros 60 oed sydd wedi perchen ar eu heiddo a byw ynddo am leiafswm o 5 mlynedd. Mae cymorth grant ar gael ar gyfer gwneud atgyweiriadau hanfodol sy'n costio  mwy na £500, ond heb fod yn fwy na £4,000 (£6,500 mewn amgylchiadau eithriadol). Mae gwaith cyffredinol sy'n gymwys ar gyfer cymorth grant yn gynnwys gwaith cynnal a chadw cyffredinol i doeau, gwaith trydanol, ffenestri, drysau, rendro ac ati.

Pwy sy'n Gymwys?

Er mwyn fod yn gymwys am y grant, rhaid i'r ymgeiswyr:

  • Fod dros 60 oed
  • Fod wedi perched ar eu heiddo a byw ynddo am leiafswm o 5 mlynedd
  • rhaid i'r eiddo dan sylw fod wedi'i adeiladu mwy na 10 mlynedd yn ôl 
  • rhaid i chi fod â llai na £10,000 mewn cynilion

A fydd rhaid i mi dalu cyfraniad?

Bydd ymgeiswyr yn destun prawf modd. Bydd swm y cymorth grant sydd ar gael yn dibynnu ar gyfrifiad y prawf modd.  Fydd ymgeiswyr sydd â chyfraniad prawf modd o fwy na £1,000 ddim yn gymwys.

Os ydych chi'n derbyn unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol, fyddwch chi ddim yn destun prawf modd:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm
  • Gostyngiad Treth y Cyngor
  • Credyd Pensiwn â  Gwarant
  • Credyd cynhwysol neu Gredyd Treth lle mae'r incwm wedi'i asesu'n llai na £15,050

Cyflwyno Cais 

Cysylltwch â'r Garfan Grantiau Tai gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod er mwyn i'ch cymhwysedd gael ei asesu. Yna, bydd gofyn i chi lenwi ffurflen gais.

Cysylltwch â ni 

Grantiau tai

Llawr 3, 

Tŷ Sardis, 

Heol Sardis, 

Pontypridd, 

CF37 1DU

Rhif Ffôn: 01443281118