Skip to main content

Benthyciad Tai i Gartrefi

Benthyciadau sy’n cael eu cynnig drwy Fenter Troi Tai’n Gartrefi yw Benthyciadau Eiddo Gwag. Gellir eu defnyddio i adnewyddu a gwella eiddo unigol neu i addasu eiddo gwag yn nifer o unedau, a’u gwneud yn addas i’w defnyddio fel llety preswyl.

Gall unigolion a chwmnïau wneud cais am fenthyciad, os ydynt eisoes yn berchen ar eiddo gwag neu os ydynt yn ystyried prynu eiddo gwag yng Nghymru.

Dim ond ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag ers o leiaf chwe mis neu fwy y gellir cynnig benthyciad.

Y benthyciad mwyaf y gallwch wneud cais amdano yw £25,000 yr eiddo neu’r uned, hyd at gyfanswm o £150,000 yr ymgeisydd. Sylwer na all unrhyw fenthyciad a gynigir, ar ôl ystyried unrhyw forgais presennol, fod yn fwy nag 80% o werth presennol yr eiddo.

Sut alla i gael rhagor o wybodaeth am y cynllun benthyciadau?

Bydd pawb sy’n gwneud ymholiad yn cael pecyn Troi Tai’n Gartrefi a fydd yn cynnwys:-

  • Llyfryn gwybodaeth
  • Ffurflen gais
  • Enghraifft o Gytundeb Cyfleuster Benthyca
  • Enghraifft o Gytundeb Arwystl Cyfreithiol

Os hoffech drafod eich eiddo neu os oes arnoch angen eglurhad pellach, mae croeso i chi gysylltu â:

Ffôn: 01443 281136 / 07899922833

Ebost: TroiTainGartrefi@rctcbc.gov.uk