Skip to main content

Grantiau Gwella Cartrefi

Mae grantiau adnewyddu ond ar gael mewn amgylchiadau eithriadol lle bo'ch eiddo yn cael ei ystyried yn berygl i iechyd, diogelwch a lles y preswylydd neu'r cyhoedd.         

 Meini prawf ar gyfer grant 

Mae’r Cyngor yn cydnabod y bydd amgylchiadau yn codi o dro i dro lle bo rhaid ymateb, er budd iechyd, diogelwch, a lles y cyhoedd, i gais am gymorth mewn achos na fyddai, o dan amgylchiadau arferol, mewn ardal adnewyddu, nac yn rhan o brosiectau buddsoddi strategol y Cyngor.  

O ganlyniad, mewn amgylchiadau lle         

  • bod iechyd a diogelwch y meddiannydd, neu feddiannydd yr eiddo cyfagos, neu'r cyhoedd yn gyffredinol, mewn perygl; neu                   

  • bod posibilrwydd y gallai oedi wrth ddelio â'r diffyg arwain at ddirywiad sylweddol yn adeiladwaith yr adeilad, er enghraifft, gwaith dymchwel strwythurol:

Os gwaith adnewyddu yw'r cam gweithredu mwyaf priodol, fe fydd y Cyngor yn ystyried cymeradwyo’r cais am gymorth er mwyn unioni'r diffyg.

Pwy sy'n Gymwys?

Os ydych chi eisiau gwneud cais, rhaid i chi fod yn berchen ar yr eiddo ac yn byw ynddo ers pum mlynedd man lleiaf.

Ni fydd eiddo gwag yn cael ei ystyried ar gyfer Grant Adnewyddu.

Pa waith sy'n cael ei gynnwys yn y cynllun?

Gwaith trwsio ac atgyweirio cyffredinol sy'n angenrheidiol ar gyfer unioni a chywiro diffygion a fyddai'n effeithio ar allu'r meddiannydd i fyw'n gyffyrddus yn yr eiddo.  Gallai'r gwaith gynnwys cyfleusterau ystafell ymolchi, cwrs atal lleithder, lloriau concrid, ail-blastro, ail-wifro, a gwaith atgyweirio plymwaith.               

Bydd cymorth yn cael ei ystyried er mwyn mynd i'r afael â diffygion strwythurol yn ogystal a gwaith cysylltiedig, ynghyd â thrin achosion difrifol o bydredd sych sy'n weithredol a chynyddol sy'n cael effaith niweidiol ar gyfanrwydd strwythurol yr eiddo.

Fyddwn ni ddim yn rhoi cymorth ar gyfer gwaith y tu allan i'r eiddo, gan gynnwys ailadeiladu waliau cynnal.

Beth ydy uchafswm y grant sydd ar gael?

£35,000, ynghyd â ffioedd ategol, yw uchafswm y cymorth grant sydd ar gael ar gyfer Cymorth Grant Adnewyddu Llawn. 

Amodau Grant 

Bydd hi’n ofynnol i chi fyw yn yr eiddo am gyfnod o bum mlynedd ar ôl i'r gwaith grant ddod i ben.  Byddai'r Cyngor yn ei gwneud hi’n ofynnol i chi ad-dalu’r grant pe baech chi’n gwerthu’r tŷ yn ystod y cyfnod o bum mlynedd yn dilyn cymeradwyo’r grant.                

Cyn i'r grant gael ei gymeradwyo, bydd hi’n ofynnol i chi gytuno bod y Gofrestrfa Tir yn rhoi arwystl ar yr eiddo am gyfnod o bum mlynedd o ddyddiad dod i ben â’r gwaith.                

Pan fydd y Cyngor yn cymeradwyo’ch cais, bydd gofyn i chi gwblhau’r gwaith cyn pen 12 mis.  Os byddwch chi heb gwblhau'r gwaith erbyn hynny, caiff eich grant ei ddileu

 

Cysylltu â ni: 

Grantiau Tai

Tŷ Sardis

Heol Sardis

Pontypridd

CF37 1DU

Ffôn: 01443 281118