Skip to main content

Cwestiynnau Cyffredin- Grantiau Cartrefi Gwag

C. Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i gymeradwyo fy nghais?

Fel arfer, rydyn ni'n gweithio tuag at gymeradwyo grant ffurfiol o fewn 12 wythnos. Mae modd i hyn amrywio yn dibynnu, er enghraifft, ar wiriadau'r Gofrestrfa Tir, argaeledd/amserlenni Awdurdodau Lleol a chyflwyno'r holl ddogfennau gofynnol i Gyngor RhCT.

D.S. – Lle mae oedi'n ymwneud â'r Gofrestrfa Tir, bydd Cyngor RhCT yn cynghori unigolion yn gryf i wneud cais i gyflymu materion gyda'r Gofrestrfa Tir, er mwyn osgoi unrhyw oedi hir.

 

C. Beth sydd angen ei wneud cyn y bydd cymeradwyaeth ffurfiol yn cael ei rhoi a gwaith gyda chymorth grant yn gallu dechrau yn yr eiddo?

Gweler isod:

    • Tystiolaeth o berchnogaeth yr eiddo (wedi'i chwblhau trwy wiriadau tystysgrif teitl).
    • Amcangyfrifon ar gyfer yr holl waith sydd wedi'i restru yn y Rhestr Waith a ddarparwyd i'w cyflwyno.
    • Unrhyw ddogfennau/tystiolaeth berthnasol eraill sydd angen eu cyflwyno gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, reoliadau adeiladu, cynlluniau a chyfrifiadau strwythurol.

C. Beth yw pwrpas y pridiant cyfreithiol? Sut mae'n cael ei ddileu ar ôl 5 mlynedd?

Rhaid i’r ymgeisydd grant, unrhyw berchnogion eraill, ag unrhyw benthyciwr gytuno i gofrestru Pridiant y Gofrestrfa Tir yn erbyn teitl yr eiddo, o blaid Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, am gyfnod yr Amod Grant (5 mlynedd o'r dyddiad cafodd y gwaith a wnaed â chymorth grant ei ardystio). Os bydd unrhyw ran o Amodau a Thelerau'r grant yn cael ei thorri, bydd raid ad-dalu'r cymorth grant a gafodd ei ddyfarnu. Mae’r pridiant cyfreithiol yn ein galluogi ni i sicrhau bod unrhyw fuddsoddiad grant sy'n cael ei ryddhau yn cael ei ddiogelu.

Carfan Gyfreithiol Rhondda Cynon Taf fydd yn sefydlu'r pridiant. Ar ddiwedd y cyfnod 5 mlynedd, bydd darpariaeth i ddileu'r tâl yn cael ei gweithredu.

Cyn rhyddhau unrhyw arian grant i ymgeiswyr, bydd angen cadarnhau'r pridiant cyfreithiol mae Adran Gyfreithiol RhCT wedi'i sicrhau.

C. A oes modd i fi ddefnyddio 1 neu fwy o gontractwyr/adeiladwyr?

Oes, rydyn ni'n derbyn efallai na fydd pawb yn dymuno defnyddio un contractwr yn unig. Bydd angen i bob contractwr gyflwyno amcangyfrif cost, gan gyfeirio'n benodol at yr eitemau perthnasol o'r rhestr waith.

C. A oes modd i fi gwblhau'r holl waith ar yr eiddo fy hun?

Os byddwch chi'n gwneud y gwaith eich hun, dim ond costau deunyddiau adeiladu â derbynneb fydd yn gymwys ar gyfer cymorth grant. Rhaid i bob derbynneb am ddeunyddiau fod yn gysylltiedig â chyfeiriad yr eiddo gwag.

Cofiwch fod angen i rai mathau o waith gael eu gwneud gan 'berson cymwys' er mwyn darparu tystysgrif. Mae'r rhain yn cynnwys

    • Ailwifro trydanol
    • Gwres canolog 
    • Ffenestri a drysau (mae angen i'r rhain gael eu hardystio gan yr adran Reoli Adeiladu, neu eu cwblhau gan gontractwr cofrestredig FENSA neu CERTASS)
    • Cwrs atal lleithder/Trin pren a thancio
    • To fflat gwydr ffibr

C. Sut byddaf i'n cael fy nhalu?

DS. Mae'r amserlen grant wreiddiol (9 mis) yn caniatáu 3 chyfle i dalu. Rydyn ni'n cynnig 2 daliad interim ac 1 taliad terfynol.

Cam 1 - Bydd angen cadarnhau bod y pridiant cyfreithiol wedi'i gadarnhau yn erbyn yr eiddo.

Cam 2 - Bydd syrfëwr Grantiau yn ymweld â'r eiddo i asesu lefel y gwaith sydd wedi'i gwblhau (yn seiliedig ar y rhestr o waith cymwys).

Cam 3 - Ar ôl cadarnhau caniatâd i brosesu taliad, bydd aelod o’r garfan yn gofyn i chi gyflwyno anfoneb gymwys a ddylai gydymffurfio â’r rhestr wirio 12 pwynt (a fydd yn cael ei darparu yn ystod y gymeradwyaeth). Bydd gofyn i chi ddarparu'ch manylion banc ar y pwynt yma er mwyn eich rhoi chi ar y system ariannol i brosesu taliadau.

C. A oes trothwy y mae angen ei gyrraedd er mwyn i'r taliad cyntaf gael ei ryddhau?

Oes. Os ydy'r taliad cyntaf yn daliad interim, bydd yr Awdurdod ond yn rhyddhau'r taliad ar ôl i chi dalu'ch cyfraniad ariannol chi a chwblhau gwaith gwerth £5000 yn fwy na'ch cyfraniad.

Er enghraifft, Bydd angen cwblhau gwerth £3750 o gyfraniad gorfodol + £5000 – lleiafswm o £8750 yn yr eiddo cyn rhyddhau'r taliad cyntaf.

C. A oes modd trafod y cyfraddau sy wedi'u nodi yn yr atodlenni o waith sydd wedi'i wneud?

Does dim modd newid na thrafod y cyfraddau sy wedi'u nodi. Bydd yr un cyfraddau'n cael eu cymhwyso/caniatáu ar gyfer pawb sy'n ymgeisio am Grant Tai Gwag. Os yw dyfynbrisiau'r contractwyr rydych chi wedi'u dewis yn uwch na'r costau mae'r grant yn eu caniatáu, yna chi, yr ymgeisydd, fyddai'n gyfrifol am ariannu unrhyw gostau ychwanegol.

C. Beth sy'n digwydd os ydy gwaith a oedd ddim wedi'i ragweld yn cael ei ddarganfod?

Pe bai unrhyw waith a oedd ddim wedi'i ragweld yn cael ei ddarganfod ar ôl arolwg gwreiddiol y syrfewyr grant, bydd angen ymweliad safle arall gan syrfëwr yr awdurdod lleol perthnasol i benderfynu a fyddai modd i'r gwaith fod yn gymwys ar gyfer cymorth grant. Bydd rhestr waith newydd yn cael ei darparu os ydy'r syrfëwr o'r farn bod y gwaith a oedd ddim wedi'i ragweld yn gymwys/hanfodol i'r grant. Yn yr achos hwnnw, bydd angen cyflwyno amcangyfrif eglurhaol i Gyngor RhCT, a fydd yn asesu a oes angen adolygu dyfarniad y grant.

C. Mae gen i aelod o'r teulu sy'n grefftwr, a fyddai modd iddo/iddi dderbyn costau llafur o dan y grant?

Caiff perthnasau ganiatâd i roi cymorth gyda'r gwaith a derbyn tâl ar yr amod eu bod nhw'n Gwmni Cyfyngedig. Caiff hyn ei wirio trwy wybodaeth sydd ar gael gan Dŷ'r Cwmnïau. Dim ond cost derbynebau deunyddiau adeiladu, yn ôl y lwfans cyfradd, fydd yn gymwys am gymorth grant.