Dyma'r meysydd o ran mesur ansawdd dŵr y mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yn eu hystyried:
- Cyflenwadau Dŵr Preifat: Ar gyfer y rheiny sy’n cymryd cyflenwad dŵr preifat o ddyfrdyllau turio.
- dyfroedd ar gyfer ymdrochi: gan gynnwys pyllau nofio mewn canolfannau hamdden, pyllau Jacuzzi, a phyllau therapi dŵr.
- prif system cyflenwi dŵr: gan gynnwys cynhyrchwyr bwydydd a diodydd yn ogystal â chyflenwadau'r cartref o dro i dro.
Cyflenwadau Dŵr Preifat
Mae gyda ni nifer o gyflenwadau dŵr y cartref a masnachol rydyn ni’n gyfrifol am eu monitro o ran eu hansawdd yn ficrobiolegol (bacteria) ac yn gemegol (e.e. plaladdwyr).
Mae'r ddeddfwriaeth rydyn ni'n ei defnyddio wedi'i gwneud o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 a Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac fe'i gelwir yn Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010. Daeth y Rheoliadau yma i rym ar 4 Chwefror 2010.
Mae hyn yn dweud wrthyn ni beth ddylai safonau'r dŵr fod, a pha mor aml y bydd raid i ni brofi'r dŵr gan ddibynnu ar ei ddefnydd.
Dyfroedd ymdrochi
Rydyn ni’n gyfrifol am brofi ansawdd pob pwll nofio gan gynnwys canolfannau hamdden, clybiau iechyd preifat, gwestai, pyllau nofio awyr agored, pyllau hydrotherapi, pyllau Jacuzzi a phyllau padlo.
Rydyn ni’n profi'r rhain bob mis o ran lefelau cemegau ac yn flynyddol ar gyfer eu hansawdd ficrobiolegol (bacteria). Os byddwn ni’n derbyn cŵyn neu os oes problemau gyda'r profion cemegol, byddwn ni’n profi’u hansawdd yn fwy aml.
Prif Gyflenwad Dŵr
Rydyn ni hefyd yn archwilio ansawdd y dŵr prif gyflenwad mae ein cynhyrchwyr bwydydd yn ei ddefnyddio, gan gynnwys dŵr ar gyfer bragdai a diwydiannau bwydydd eraill. Mae'n bosibl bod modd inni, yn ychwanegol at yr ymgymerydd statudol, gamu i mewn o dro i dro i brofi dŵr prif gyflenwad y cartref.
Yn ogystal â hynny, mae'r Arolygiaeth Dŵr Yfed, y corff gwladol ar gyfer gwarantu safon dŵr, yn paratoi adroddiad blynyddol ynghylch safon eich dŵr yfed.
Mae modd adrodd am ddigwyddiad llygredd dŵr ar-lein
Cysylltu â ni
Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301
E-bost: CymorthProsiectauIechydyCyhoedd@rhondda-cynon-taf.gov.uk