Skip to main content

Cwynion am fwydydd

Mae dau fath o gwynion am fwydydd. Dyma nhw:

  • Cwynion am ddiogelwch bwyd
  • Cwynion am hylendid bwyd 

Cwynion am hylendid bwyd

Mae modd i Garfan Materion Bwyd ac iechyd a Diogelwch ymchwilio i bob mater sy'n gysylltiedig â hylendid bwyd. Ydych chi'n pryderu am lendid, arferion trin bwyd neu blâu mewn unrhyw fusnes bwyd yn Rhondda Cynon Taf? Os ydych chi, croeso i chi wneud cŵyn.

Byddwn ni’n ymdrin â’ch cŵyn heb ddatgelu’ch enw. Pan ddaw cŵyn i law, bydd un o'n swyddogion yn ymchwilio i’ch cŵyn, ac yn rhoi gwybod i chi fel cwynydd beth yw’r canlyniad.

Hoffech chi wneud cŵyn? Neu a hoffech chi gael rhagor o wybodaeth? Croeso i chi gysylltu â’r Garfan Materion Bwyd, Iechyd a Diogelwch.

Cwynion am ddiogelwch bwyd

Bydd y Garfan Materion Bwyd, Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i gwynion am ansawdd a diogelwch bwydydd. Enghreifftiau o hyn fyddai bwydydd sydd wedi llwydo, a bwydydd yn cynnwys gwrthrychau estron megis metel, gwydr, neu bryfed hyd yn oed.

Croeso i chi gysylltu â’r garfan er mwyn i ni gael ymchwilio iddyn nhw.  Dewis arall fyddai mynd â’r eitem bwyd yn ôl i’r fangre lle cafodd ei phrynu, fel bo modd cynnal archwiliad mewnol yn y fan honno.

Pa gwynion bwyd y byddwn ni'n ymchwilio iddyn nhw?

Bydd y Garfan Materion Diogelwch Bwyd, Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i gwynion am fwydydd sydd wedi’u prynu yn ardal Rhondda Cynon Taf.

Does dim modd i’r Garfan Bwyd, Iechyd a Diogelwch gael ad-daliad i chi, a chi biau'r dewis o ran beth i'w wneud nesaf – naill ai dilyn y gŵyn am Fwyd drwy’r Cyngor, neu ddychwelyd y bwyd i’r lle cafodd ei brynu a gadael i gyflenwr y bwyd gynnal ymchwiliad. Os byddwch chi’n caniatáu i ni ymchwilio i’ch cŵyn, fydd dim modd i ni ddychwelyd y bwyd i chi.

Rwy’n amau fod bwyd sydd gen i yn anniogel. Beth ddylwn i ei wneud?

Y peth cyntaf i’w wneud yw cysylltu â’r Swyddogion Bwyd, Iechyd a Diogelwch. Nodwch y manylion isod. Bydd hyn yn eich helpu i sicrhau fod modd cynnal ymchwiliad llawn:

Mae’n bosibl y bydd un o’r swyddogion yn dymuno cyflwyno’r gwrthrych estron neu’r bwyd i labordy i’w ddadansoddi. Bydd raid mynd â’r bwyd neu’r gwrthrych i ffwrdd. Os oes bwyd ar ôl, cadwch e mewn cynhwysydd caeëdig. Cadwch wrthrychau estron mewn cynhwysydd caeëdig hefyd. Rhowch nhw mewn oergell neu rewgell nes i ni’u casglu. Bydd hyn yn gymorth i gadw’r bwyd rhag dirywio mor gyflym.

Cadwch y pecynnau sy'n dod gyda'r bwyd.  Bydd hyn yn nodi gwybodaeth bwysig megis 'defnyddio erbyn', côd y swp ac ati.  Bydd angen hyn i gyd yn rhan o'r ymchwiliad.

Prawf prynu yw'ch derbynneb. Cadwch hon hefyd.

Gwrthrychau estron – cadwch nhw, mae'r rhain yn dystiolaeth.

Cadwch unrhyw fwydydd dan amheuaeth bob amser mewn ffordd na fydd yn halogi bwydydd eraill. Peidiwch byth â thynnu unrhyw wrthrych estron i ffwrdd, neu’i wahanu. Peidiwch â thrin a thrafod y bwyd mwy na sydd angen. Os yw'n bosibl, cadwch y dderbynneb.

Beth wnawn ni?

Bydd lefel yr ymchwiliad yn dibynnu ar natur y gŵyn, y risg i iechyd, barn broffesiynol y swyddog ymchwilio a gwybodaeth flaenorol am gwynion o'r fath.

Fe allai’r ymchwiliad amrywio o archwilio’r bwyd â’r llygad er mwyn adnabod gwrthrych estron, i ddadansoddi’r bwyd yn drylwyr.

A’r ymchwiliad wedi dechrau, bydd angen i’r swyddog sy’n ymdrin â’ch cŵyn gysylltu â’r rhai sy’n gyfrifol am y mater. Mae’n bosibl taw’r fangre lle prynasoch chi’r bwyd, neu brif swyddfa'r cwmni, fydd hyn. Posibilrwydd arall yw gweithgynhyrchydd neu fewnforiwr y bwyd, neu’r awdurdod lleol y mae’r gweithgynhyrchydd neu’r mewnforiwr yn dod o dano.

Ar ddiwedd yr ymchwiliad, bydd swyddogion yn penderfynu pa gamau gorfodi i’w cymryd ar sail natur y gŵyn, hanes cwynion y busnes dan sylw, a’r camau diogelu bwyd sydd mewn grym gyda nhw.

Camau anffurfiol sy’n cael eu cymryd mewn sawl achos; ond cofiwch y bydd gofyn i chi roi datganiad ysgrifenedig os caiff camau ffurfiol eu cymryd.

Cofiwch y gall yr ymchwiliad ei hun gymryd cryn amser.  Bydd gofyn am hel adroddiadau  oddi wrth gwmnïau, awdurdodau lleol, a labordai. Fe wnawn ni’n sicr er hyn y cewch eich cadw’n gyfarwydd â hynt yr ymchwiliad nes iddo ddod i ben.

Diogelu iechyd y cyhoedd yw prif ddiben ymchwilio i gwynion am fwyd.

Hoffech chi wneud cŵyn? Hoffech chi ragor o wybodaeth am yr hynny uchod?  Cofiwch gysylltu â ni:

Carfan Cyngor i Fusnesau

Carfan Bwydydd, Iechyd a Diogelwch
Gwasanaeth Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd
Tŷ Elái
Hen Ystad Ddiwydiannol Dinas Isaf
Tonypandy

CF40 1NY 

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301