Skip to main content

Gwaith a Chymorth Lles

Mae modd i chi ofyn am gymorth trwy ffonio 01443 425020 neu drwy lenwi'r ffurflen ar-lein

Budd-daliadau ar gael

Dyma wybodaeth gan Lywodraeth y DU am fudd-daliadau a ddarperir:

Mae gan y DU system les sydd wedi’i chynllunio i helpu’r rhai sy’n wynebu caledi ariannol, neu sydd ag anghenion penodol. Bydd modd i bawb o Wcráin sy'n dod i'r wlad o dan y cynllun chwilio am waith a chael swydd.

Bydd modd i'ch Canolfan Byd Gwaith leol eich helpu i ddarganfod pa fudd-daliadau mae modd i chi fanteisio arnyn nhw.  Mae modd i hyn gynnwys:

  • Credyd Cynhwysol – taliad i’r rhai o oedran gweithio, i helpu gyda’ch costau byw os ydych chi ar incwm bach. Mae modd i chi fod yn gweithio (gan gynnwys gwaith hunangyflogedig neu ran amser) neu fod yn ddi-waith.
  • Credyd Pensiwn - arian ychwanegol i helpu gyda'ch costau byw os ydych chi dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, sef 66 oed yn y DU, ac ar incwm bach.
  • Budd-daliadau anabledd – arian ychwanegol i helpu gyda chostau ychwanegol i’r rhai sydd â chyflwr neu anabledd iechyd corfforol neu feddyliol hirdymor.
  • Lwfans Gofalwr – arian ychwanegol os ydych chi'n gofalu am rywun o leiaf 35 awr yr wythnos.
  • Budd-dal Plant – arian ychwanegol i helpu gyda chost magu plentyn.

 Dyma'r dolenni ar gyfer Canolfannau Gwaith yn Rhondda Cynon Taf:

Aberdâr - https://www.jobcentreguide.co.uk/aberdare-jobcentre

Pontypridd - https://www.jobcentreguide.co.uk/pontypridd-jobcentre

Tonypandy - https://www.jobcentreguide.co.uk/tonypandy-jobcentre

Mae modd dod o hyd i ragor o leoliadau canolfannau gwaith yma -https://www.jobcentreguide.co.uk/jobcentre-plus-guide/28/jobcentre-plus-offices

Cyngor ar Bopeth (CAB) RhCT

Darparu cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ac ymgyrchu ar faterion mawr sy'n effeithio ar fywydau pobl. Eu nod yw helpu pawb i ddod o hyd i ffordd ymlaen, pa bynnag broblem maen nhw'n ei hwynebu.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'w gwefan

Cymru’n Gweithio

Bydd modd i bawb o Wcráin sy'n dod i'r wlad o dan y cynllun chwilio am waith a chael swydd.

Mae modd i Cymru’n Gweithio eich cefnogi drwy’r amseroedd newidiol yma gyda chyngor, arweiniad a mynediad am ddim i hyfforddiant i’ch helpu i gael gwaith neu ddatblygu eich gyrfa. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar eu gwefan.

Rhif Yswiriant Gwladol

Mae gan bawb dros 16 oed yn y DU rif Yswiriant Gwladol a bydd angen un arnoch chi os ydych chi'n bwriadu gweithio.

Gwnewch gais am rif Yswiriant Gwladol.

Mae gwybodaeth ychwanegol ar gael ar dudalennau Cymorth i Drigolion ar y wefan yma. 

Dyma'r dolenni ar gyfer Canolfannau Gwaith yn Rhondda Cynon Taf:

Mae modd dod o hyd i ragor o leoliadau canolfannau gwaith yma -https://www.jobcentreguide.co.uk/jobcentre-plus-guide/28/jobcentre-plus-offices

Mae modd cael rhagor o wybodaeth hefyd ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Mae Cymru'n Gweithio ar gael i gefnogi pobl drwy'r amseroedd newidiol yma gyda chyngor, arweiniad a mynediad am ddim i hyfforddiant i'ch helpu i gael gwaith neu ddatblygu eich gyrfa. Cysylltwch a bydd modd iddyn nhw eich arwain chi drwy'r broses. Mae modd iddyn nhw hefyd helpu gyda chymwysterau'r UE a thu allan i'r UE a'u trosglwyddo i gymwysterau cyfatebol y DU.

Pan ddewch chi o hyd i swydd

Pan ddewch chi o hyd i swydd gyda chyflogwr yn y DU bydd angen i chi ddangos prawf o'ch hawl i weithio

Agor cyfrif banc yn y DU

​Bydd angen ichi agor cyfrif banc yn y DU i dderbyn arian gan y llywodraeth. Yn y DU, gelwir y taliadau yma'n fudd-daliadau.  

Mae yna amrywiaeth o fanciau, ac mae modd i chi ddewis yr un sydd fwyaf addas i chi. Mae yna hefyd ddarparwyr bancio 'ar-lein yn unig' mae modd i chi eu defnyddio. 

Bydd angen i chi ddangos prawf o bwy ydych chi i agor cyfrif banc yn y DU, megis: 

  • pasbort,
  • statws mewnfudo
  • trwydded yrru, neu
  • cerdyn adnabod cydnabyddedig.  
  • Mae angen prawf o gyfeiriad parhaol arnoch chi hefyd.  

Mae nifer o fanciau wedi dechrau cynnig cyfrifon banc arbennig am ddim i ffoaduriaid o Wcráin. Mae rhai banciau yn darparu llwybr carlam ar hyn o bryd i Wladolion Wcráin gael agor cyfrif banc, gan gynnwys: 

Mae gan Gyngor y Ffoaduriaid Ganllaw defnyddiol ar agor cyfrif banc