Skip to main content

Cwestiynau Cyffredin

Mae'r Cwestiynau Cyffredin isod yn ymwneud â gwasanaethau sy'n cael eu darparu yn y gymuned a/neu gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.

Os hoffech chi gael gwybodaeth am wasanaethau gofal iechyd yng Nghwm Taf Morgannwg dewiswch y ddolen yma.

Dwi newydd gyrraedd Cwm Taf Morgannwg - beth ddylwn i'w wneud?

Bydd Aseswr Lles o’r Cyngor yn cysylltu â chi i drafod dod i gwrdd â chi yn eich eiddo i wneud yn siŵr ei fod yn addas, yn unol â chanllawiau gan Lywodraeth San Steffan a sicrhau bod gyda chi bopeth sydd ei angen arnoch chi.

Bydd eich lletywr yn rhoi gwybod i swyddogion y Cyngor eich bod chi wedi cyrraedd a bydd asesydd lles yn galw i ymweld â chi yn eich cartref newydd i sicrhau eich bod chi'n ddiogel ac yn iach. Mae gyda chi hawl i dderbyn taliad cyrraedd o £200 fel incwm brys ar gyfer unrhyw hanfodion sydd eu hangen arnoch chi. Bydd Cyngor RhCT yn prosesu hyn ar ôl yr ymweliad asesu lles o fewn 48/72 awr (gwaith) i chi gyrraedd. Caiff hwn ei dalu i chi drwy gerdyn rhagdaledig drwy'r post.

Os oes angen i chi drafod unrhyw faterion ar frys, cysylltwch â CymorthiWcrain@rctcbc.gov.uk​​​​​​

Ble mae modd i fi gael cymorth ar gyfer fy mhlentyn yng Nghwm Taf Morgannwg?

Mae gwybodaeth am ble i ddod o hyd i gymorth ar gyfer eich plentyn yn Rhondda Cynon Taf ar gael ar y tudalennau yma.

Os hoffech chi gael cymorth mewn perthynas â chofrestru eich plentyn yn yr ysgol, mae gwybodaeth ar gael ar y tudalennau yma.

Mae angen i fy mhlentyn gyrraedd yr ysgol ond doed dim cludiant gen i - pa gymorth sydd ar gael? 

Mae gwybodaeth am gludiant o'r cartref i'r ysgol a chymhwysedd ar gael ar y tudalennau yma.

Mae bellach modd i ffoaduriaid o Wcráin deithio am ddim ar wasanaethau rheilffordd ledled Cymru.

Bwriad y cynllun chwe mis, ar gyfer holl wasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru, yw helpu ffoaduriaid wrth iddyn nhw ymgartrefu.

Bydd angen i wladolion Wcráin ddangos eu pasbort i docynwyr a staff yr orsaf i hawlio taith am ddim.

Mae gen i drafferthion ariannol - ble galla i fynd am gymorth?

Mae'r hawl gyda chi i dderbyn taliad cyrraedd o £200 fel incwm brys ar gyfer unrhyw hanfodion sydd eu hangen arnoch chi. Bydd Cyngor RhCT yn eich talu’n uniongyrchol mewn arian parod o fewn 48/ 72 awr ar ôl i chi gyrraedd, yn ystod ymweliad ar ôl cyrraedd.

Mae gwybodaeth am y cymorth lles sydd ar gael i'w gweld ar y tudalennau hyn.

Os oes angen rhagor o gyngor arnoch neu e-bostiwch CymorthiWcrain@rctcbc.gov.uk

Dwi angen help i ddod o hyd i waith?

Bydd modd i bawb o Wcráin sy'n dod i'r wlad o dan y cynllun chwilio am waith a chael swydd.

Mae modd i Cymru’n Gweithio eich cefnogi drwy’r amseroedd newidiol yma gyda chyngor, arweiniad a mynediad am ddim i hyfforddiant i’ch helpu chi i gael gwaith neu ddatblygu eich gyrfa. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar eu gwefan.

Cymorth i Drigolion

Dyma'r dolenni ar gyfer Canolfannau Gwaith yn Rhondda Cynon Taf:

Aberdâr - https://www.jobcentreguide.co.uk/aberdare-jobcentre

Pontypridd - https://www.jobcentreguide.co.uk/pontypridd-jobcentre

Tonypandy - https://www.jobcentreguide.co.uk/tonypandy-jobcentre

Mae modd dod o hyd i ragor o leoliadau canolfannau gwaith yma

Mae modd cael rhagor o wybodaeth hefyd ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Pan fyddwch chi'n dod o hyd i swydd gyda chyflogwr yn y DU bydd angen i chi ddangos prawf o'ch hawl i weithio.

Ga i yrru yng Nghwm Taf Morgannwg?

Mae modd i chi ddefnyddio'ch trwydded yrru Wcráin am y 12 mis cyntaf ar ôl i chi gyrraedd. Bydd angen i chi wedyn ei gyfnewid am drwydded Brydeinig.

Gwiriwch pa ofynion y mae angen i'ch cerbyd eu bodloni yn y DU.

Dwi angen cymorth o ran cyfieithu a dehongli - a fydd hwn ar gael?

Rydyn ni wedi ymrwymo i wella mynediad at ein gwasanaethau ar gyfer ein poblogaeth amrywiol trwy ddehongli proffesiynol a chyfathrebu trawsddiwylliannol. Mae hynny’n cynnwys sicrhau bod cyfieithydd yn cael ei ddarparu pryd bynnag y bo’r angen yn bodoli.

Mae ein gwasanaethau cyfieithu ar y pryd yn cefnogi pobl nad yw eu defnydd o’r Saesneg o bosibl yn ddigon hyfedr i gael mynediad hawdd at ein Gwasanaethau, pobl sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg neu ddewis iaith arall, neu bobl sydd â nam ar y clyw a/neu nam ar y golwg.

Mae sawl ffordd o gael mynediad at wasanaethau dehongli; mae modd eu darparu wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy ddulliau eraill fel fideo-gynadledda.   

Rhowch wybod i ni am unrhyw gymorth sydd ei angen arnoch chi.  

Mae gen i gwestiynau heb eu hateb. Ble galla i fynd am help?

Os oes angen rhagor o gyngor arnoch chi e-bostiwch CymorthiWcrain@rctcbc.gov.uk