Skip to main content

Argyfyngau a Gwybodaeth Diogelu

Beth i'w wneud mewn argyfwng

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod sut i gysylltu â’r gwasanaethau brys:

Ffoniwch 999 i gysylltu â’r heddlu, gwasanaethau meddygol neu’r gwasanaeth tân ac achub mewn argyfwng

Ffoniwch 101 i gysylltu â'r heddlu pan nad yw'n argyfwng

Ffoniwch 111 neu ewch i 111.nhs.uk i gael gofal meddygol brys nad yw’n argyfwng

Diogelu

Mae diogelu yn golygu amddiffyn plant, pobl ifainc ac oedolion, iechyd, lles a hawliau dynol; gan eu galluogi i fyw yn rhydd rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod. Mae'n rhan annatod o ddarparu gofal iechyd o ansawdd uchel. 

Mae cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru. Rydyn ni am amddiffyn plant a'u hawliau, er mwyn rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd iddyn nhw. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y tudalennau yma.

Mae’n annerbyniol i unrhyw un fod mewn perygl o esgeulustod neu gamdriniaeth o unrhyw fath. I gael rhagor o wybodaeth am roi gwybod am bryderon difrifol o ran diogelu, ewch i wefan  Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg.

Os ydych chi'n pryderu am eich diogelwch chi neu eich teulu, neu eu hymddygiad, ffoniwch ni ar 01443 425003. Os yw'n argyfwng, ffoniwch 999.

Gwasanaethau Cymdeithasol – cymorth y tu allan i oriau gwaith

Mae ein Carfan Argyfwng ar Ddyletswydd yn cynnig cymorth mewn argyfwng i oedolion bregus, plant mewn angen a'u teuluoedd. Mae argyfwng yn golygu rhywbeth nad oes modd ei adael yn ddiogel tan y diwrnod gwaith nesaf.

Ffoniwch ni ar 01443 743665 / 01443 657225

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y wefan.

Tudalennau Perthnasol