Skip to main content

Cynnig llety

  • Щоб переглянути ці сторінки українською мовою, клацніть на людину в помаранчевому колі, а потім на A у полі та виберіть мову. 

Mae Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi manylion cynllun cenedlaethol 'Cynllun Cartrefi i Wcráin'.

Mae'r cynllun newydd yma a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yn cynnig llwybr i’r rhai sydd am ddod i’r DU ar ôl cael eu gorfodi i ddianc o’u mamwlad.

Mynnwch olwg ar atebion Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i rai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin am y cynlluniau a sefydlwyd i alluogi pobl o Wcráin i ddod i'r DU. Mae hyn yn cynnwys penderfyniad Llywodraeth Cymru i weithredu fel arch-noddwr o dan y Cynllun Cartrefi i Wcráin.

Darllen cwestiynau cyffredin Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 

Dylai noddwyr ddarparu llety gyn hired â bo modd, ond bydd disgwyl iddyn nhw wneud hynny am o leiaf 6 mis.

Rydyn ni'n dal i aros am ragor o fanylion ynghylch sut y bydd hyn yn cael ei weinyddu gan Lywodraeth San Steffan a byddwn ni'n diweddaru'r dudalen yma cyn gynted ag y bydd rhagor o wybodaeth yn dod i law.

Ymgeisio am fisa Cynllun Teuluoedd o Wcráin

Mae’r cynllun hwn yn helpu pobl sy’n ffoi o Wcráin i ddod i ymuno ag aelod o’r teulu sy’n byw yn y DU, neu i ymestyn eu harhosiad yn y DU. 

Dysgwch ragor am Gynllun Teuluoedd o Wcráin

Cofrestru ar gyfer Cynllun Cartrefi i Wcráin

Mae'r cynllun yma'n gyfle i chi helpu pobl sy'n ffoi o Wcráin trwy eu noddi a'u croesawu i'ch cartref.
 Cofrestrwch nawr

Cwestiynau ac atebion am sut y bydd y Cynllun Cartrefi i Wcráin yn gweithio

Trigolion y DU sy'n ceisio noddi unigolion a'r rhai sydd â theuluoedd yn Wcráin:

Pe hoffech chi noddi ffoaduriaid ffoniwch y llinell gymorth ar 0808 175 1508 (yn y DU) a 0204 5425671 (y tu allan i’r DU)

Os ydych chi'n breswylydd gyda ffrindiau a theulu yn Wcráin ac angen gwybodaeth neu gefnogaeth am yr hyn sy'n digwydd, cysylltwch â Llysgenhadaeth Wcráin yn Llundain:
Cyfeiriad: 60 Holland Park, Llundain, W11 3SJ,
Ffôn:020 7727 6312
E-bost:emb_gb@mfa.gov.ua
Gwefan:uk.mfa.gov.ua
Facebook:www.facebook.com/ukraine.in.uk/
Trydar:twitter.com/UkrEmbLondon
Linkedin:www.linkedin.com/company/embassy-of-ukraine-in-the-uk