Skip to main content

Oriau Agor Gŵyl Banc Awst 2024

Cyn gwyliau'r banc, gwyliau tymhorol, neu os bydd tywydd garw, fe wnawn ein gorau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y dudalen yma, gan gynnwys y sefyllfa o ran gwasanaethau'r Cyngor sydd ar gael, a'r ffyrdd a'r ysgolion sydd ar gau.

I gael y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ni ar Twitter a hoffwch ni ar Facebook 

Oriau Agor Gŵyl Banc Awst 2024

Bydd y Cyngor ar gau o 5pm ddydd Gwener, Awst 23 ac yn agor am 8:30am ddydd Mawrth, Awst 27 – mae hyn yn berthnasol i BOB gwasanaeth mawr heblaw am argyfyngau y tu allan i oriau. Rhoddir manylion y gwasanaethau sydd ar gael a'u horiau agor isod.

Gallwch barhau i gael mynediad at ystod eang o wasanaethau ar-lein yn ystod y cyfnod hwn, ond atgoffir trigolion efallai na fydd y cais yn cael ei brosesu nes bod swyddfeydd yn ailagor ddydd Mawrth Awst 27, 2024.

Cysylltu â'r Cyngor mewn Argyfwng.

Biniau ac Ailgylchu

DOES DIM NEWIDIADAU i'ch casgliadau Ailgylchu a Gwastraff dros Ŵyl Banc Awst. Gadewch eich eitemau yn eich man casglu arferol ar eich diwrnod arferol.

Mae’r Canolfannau Ailgylchu Cymunedol (CRCs) ar agor drwy gydol gŵyl y banc – yr oriau agor yw 8am tan 6.30pm (oriau agor yr haf). Gallwch weld manylion llawn am y Canolfannau ar-lein yn www.rctcbc.gov.uk/CanolfannauAilgylchu.

Ewch i'r tudalennau ailgylchu am wybodaeth ailgylchu gyffredinol, gan gynnwys dod o hyd i'm diwrnod casglu  a'r canllaw ailgylchu A-Z.

Gofal Cymdeithasol

Os oes angen i chi gysylltu ag aelod o’r garfan Gofal Cymdeithasol defnyddiwch y rhifau canlynol:

  • Argyfyngau Gofal Cymdeithasol y tu allan i oriau’r swyddfa, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc, gan gynnwys cyfnod y Nadolig ffoniwch: 01443 743665.

I bobl sydd angen cysylltu â'u darparwr gwasanaeth uniongyrchol dros gŵyl banc Awst, cysylltwch â nhw'n uniongyrchol gan ddefnyddio'r wybodaeth gyswllt y maen nhw wedi'i darparu.

Prydau Cymunedol (Pryd ar Glud)

Bydd y gwasanaeth yn cefnogi ei ddefnyddwyr dros gyfnod y gŵyl banc ac mae opsiynau bwydlen wedi'u trafod gyda defnyddwyr gwasanaeth i'w harchebu ymlaen llaw lle bo angen.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y tudalennau hyn.

Digartrefedd

Mae gwybodaeth a chyngor ar gael ar dudalen digartrefedd y wefan yma.

Bydd y swyddfeydd yn Nhŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd ar gau ddydd Llun, Awst 26 ac yn ailagor am 9am ddydd Mawrth, Awst 27. Bydd y gwasanaeth brys y tu allan i oriau hefyd ar gael drwy gydol gŵyl y banc drwy ffonio 01443 425011.

Cofrestryddion

Bydd y Swyddfa Gofrestru, Adeiladau’r Cyngor, Pontypridd AR GAU o 4pm ddydd Gwener, Awst 23 ac yn agor am 9am ddydd Mawrth, Awst 27.

Mynwentydd a Gwasanaethau Profedigaeth.

Bydd y brif swyddfa (Glyn-taf) AR GAU ddydd Llun, Awst 26 ac yn agor am 9am ddydd Mawrth, Awst 27.

Bydd y gwasanaeth arferol yn ailddechrau ddydd Mawrth Awst, 27.

Ar hyn o bryd does dim newidiadau ar gyfer Mynwentydd dros gyfnod gŵyl y banc.

Weithiau mae amgylchiadau eithriadol pan fydd yn rhaid i ni gau'r mynwentydd i gerbydau ar fyr rybudd.

Os oes angen cau mynwent i gerbydau, rhoddir rhybudd ar gatiau'r Fynwent yn cynghori'r cyhoedd. Cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny mae gatiau'r Fynwent yn cael eu hagor i gerbydau.

Gall cerddwyr gael mynediad i’r mynwentydd pan fyddant ar gau i gerbydau ond bydden ni’n annog pobl i fod yn ofalus wrth ymweld â’n mynwentydd mewn tywydd garw ac i sicrhau eu bod yn gwisgo dillad ac esgidiau priodol i osgoi cwympo ac anafiadau.

Cyfleusterau Cyhoeddus

  • Dydd Sadwrn – AR AGOR
  • Dydd Sul – AR GAU
  • Dydd Llun – AR GAU
  • Dydd Mawrth – AR AGOR

Mae manylion llawn a lleoliadau’r cyfleusterau hyn i’w gweld yma –  Toiledau Cyhoeddus

Canolfannau Hamdden

Ewch i'r wefan Hamdden neu dilynwch @RCTLeisureService ar Facebook am fanylion oriau agor eich canolfan leol.

Profiad Pyllau Glo Cymru (AWCME).

Ewch i wefan WME neu dilynwch @RhonddaHeritage  ar Twitter neu @RhonddaHeritagePark  ar Facebook am fanylion digwyddiadau ac oriau agor.

Lido Cenedlaethol Cymru - Lido Ponty

Ewch i wefan Lido Ponty neu dilynwch @LidoPonty ar Twitter a Facebook am fanylion gweithgareddau ac oriau agor.

Llyfrgelloedd

Bydd llyfrgelloedd ar GAU ddydd Llun, Awst 26 ac yn agor ddydd Mawrth, Awst 27, 2024.

Gweld manylion gweithgareddau Hanner Tymor y Pasg Gwasanaethau Llyfrgell sy'n llawn dop.

Gweld manylion gwasanaethau'r Llyfrgell.

Gwasanaeth Cyngor i Bawb

Bydd swyddfeydd One4all ar gau o 4pm ddydd Gwener, Awst 23 ac yn ailagor am 9am ddydd Mawrth, Awst 27.

Trefnwch apwyntiad ar ôl cyfnod Gŵyl y Banc yma.

Parc Gwledig Cwm Dâr

Ceir manylion llawn am y cyfleuster hwn yma - Parc Gwledig Cwm Dâr

Theatrau

Ewch i wefan Theatrau RhCT neu dilynwch @RCTtheatres  ar Twitter a @ColiseumTheatreAberdare @ParkandDare ar Facebook am fanylion.

Gwybodaeth am Ysgolion a Chludiant Ysgol

Mae pob ysgol ar gau ar gyfer Gwyliau’r Banc ar ddydd Llun, Awst 26, 2024.

Defnyddiwch y dolenni isod i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddyddiadau tymhorau, diwrnodau HMS, cludiant ysgol a chau ysgolion ac ati.

Cau Ffyrdd

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Ffyrdd sydd ar Gau ewch i'r tudalennau hyn –

Cludiant Cyhoeddus

Fe’ch cynghorir hefyd i gysylltu â’r cwmnïau perthnasol yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth ynghylch yr amhariad ar wasanaethau yn ystod cyfnod gŵyl y banc ac yn ystod tywydd garw.

Cysylltu â’r Cyngor mewn Argyfwng:

Mae modd i drigolion gysylltu â'r Cyngor gyda mater brys ar 01443 425011 yn ystod cyfnod Gŵyl y Banc a thu allan i oriau’r swyddfa/tywydd garw, sydd ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.