Mae adran Gofal Cymdeithasol i Oedolion a'n darparwyr yn Rhondda Cynon Taf yn cefnogi dros 4000 o bobl yn eu cartrefi ac mewn lleoliadau gofal bob dydd. Wrth i bandemig y Coronafeirws (COVID-19) barhau, mae'n bosibl y bydd rhai o’n gwasanaethau yn cael eu heffeithio.
Rydyn ni'n dilyn ac yn adolygu canllawiau'r Llywodraeth ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod modd i ni ymateb i'r cyngor diweddaraf. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid a darparwyr i sicrhau eu bod yn dilyn cyngor rheoli heintiau a'u bod yn parhau i ddarparu gofal mewn modd diogel.
Gofal a Chymorth yn y Cartref
Mae Gwasanaethau i Oedolion y Cyngor yn parhau i gefnogi pobl yn y gymuned ac wrth iddyn nhw gael eu rhyddhau o'r ysbyty ond oherwydd sefyllfa bresennol, barhaus y Coronafeirws, efallai y bydd rhywfaint o aflonyddwch dros dro wrth i ni flaenoriaethu ein gwasanaethau. Byddwn ni'n cysylltu ag unrhyw un sy'n cael eu heffeithio gan hyn.
Os oes angen i chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, drafod gofal a chymorth, ffoniwch ni ar 01443 425003 (Llun-Gwener, 8.30am-5pm) neu'r Garfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau ar 01443 743665/01443 657225 (y tu hwnt i'r oriau yma).
Os nad oes gyda chi rywun sy'n gallu eich helpu a'ch cefnogi, mae modd gofyn am gymorth yma.
Mewn achosion lle mae pobl yn cyflogi cynorthwywyr personol trwy daliadau uniongyrchol ac sy'n poeni am eu darpariaeth ofal yn y dyfodol, mae'r un cyngor yn berthnasol.
Cynhalwyr
Os ydych chi'n darparu gofal a/neu gymorth i rywun ac yn ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd, mae modd i chi hefyd ein ffonio i ofyn am gymorth: 01443 425003 (Llun-Gwener, 8.30am-5pm) neu'r Garfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau ar 01443 743665/01443 657225 (y tu hwnt i'r oriau yma).
Gofal Preswyl a Nyrsio ar gyfer Pobl Hŷn
Mae pob cartref gofal yn parhau i ddarparu gwasanaeth hanfodol ac yn gweithredu'n unol â chanllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru o ran COVID-19 ac yn cymryd pob cam angenrheidiol i leihau'r risg o drosglwyddo'r haint i'r bobl sy'n byw yno.
Rydyn ni'n gofyn i ddarparwyr cartrefi gofal sicrhau bod trefniadau priodol a sensitif ar waith i gefnogi ymweliadau o dan yr amgylchiadau newidiol yma. Dylai'r ymweliad gael ei drafod a'i gytuno gyda'r cartref gofal unigol ymlaen llaw, cyn teithio.
Bwriwch olwg ar fanylion cyswllt pob Cartref Gofal RhCT
Nodwch: Mae llechi digidol wedi cael eu rhoi i gartrefi preswyl y Cyngor i sicrhau bod modd i drigolion fod mewn cyswllt â ffrindiau a'u teulu ar-lein. Cynghorir teuluoedd a ffrindiau sy'n dymuno manteisio ar y dechnoleg yma i gysylltu â'r cartrefi priodol. Rhagor o fanylion yma.
Nodwch: Os oes angen cymorth yn ymwneud â Gofal Cymdeithasol i Oedolion arnoch chi, ffoniwch 01443 425003 (Llun-Gwener 8.30am-5pm) neu'r Garfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau ar 01443 743665 / 01443 657225 (y tu allan i'r oriau yma).