O 9 Tachwedd bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu nifer o fesurau ar gyfer diogelu iechyd sy'n anelu at gadw Cymru yn ddiogel.
Darllen y manylion llawn am fesurau diweddaraf Llywodraeth Cymru sydd mewn grym ar gyfer Cymru
Y prif bethau mae angen i bobl eu gwneud yw:
Y prif bethau mae angen i bobl eu gwneud yw: | |
Peidio â mynd i gartrefi pobl eraill, ac eithrio mewn amgylchiadau penodol iawn |
Peidio â threulio amser hir tu allan i'ch cartref, a cheisio peidio â theithio'n bell |
Pan fyddwch chi'n gadael cartref, ceisiwch weld cyn lleied o wahanol bobl ag sy'n bosibl. Mae'n well gweld yr un un neu ddau o bobl yn rheolaidd na gweld llawer o wahanol bobl bob nawr ac yn y man |
Cwrdd â phobl yn yr awyr agored yn hytrach nag o dan do lle bo hynny'n bosibl, hyd yn oed mewn amgylchiadau lle mae'r gyfraith yn caniatáu ichi gwrdd dan do |
Gweithio gartref os oes modd |
Cynnal pellter cymdeithasol, gan gynnwys yn yr awyr agored |
Hunan-ynysu os ydych chi'n dangos symptomau o'r Coronafeirws |
Golchi'ch dwylo yn rheolaidd a dilynwch y cyngor ar hylendid |
Mae deddfau mewn grym i sicrhau nad yw pobl yn dewis cymryd risgiau diangen. Y prif ofynion yw:
- rhaid i bobl beidio â mynd i mewn i gartrefi neu erddi eraill, ac eithrio mewn amgylchiadau penodol iawn
- pan fyddwch chi'n cwrdd â phobl nad ydych chi'n byw gyda nhw i ffwrdd o'ch cartref, 4 ddylai fod y nifer uchaf o bobl sy'n cwrdd yn y rhan fwyaf o achosion (heb gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed)
- rhaid gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, a
- rhaid hunan-ynysu pan fydd y gwasnaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn dweud wrthoch chi am wneud hynny
Gall methu â chadw at y rheolau hyn arwain at ddirwyon neu erlyniad mewn llys ynadon.Mae mwy o wybodaeth am ddirwyon a chamau gorfodi i'w gweld yma.
Cofiwch mai pwrpas y cyfyngiadau yw atal y feirws rhag trosglwyddo, gan gynnwys i'r rheiny rydyn ni'n gofalu amdanyn nhw – a hynny yn yr ardal a thu hwnt. Bydd angen i bobl benderfynu drostyn nhw eu hunain ar yr hyn sy'n rhesymol, yn unol â'r egwyddor gyffredin, er mwyn cadw eu hunain a'u cymuned ehangach yn ddiogel.
Mesurau Diogelwch Iechyd ar gyfer Cymru a RhCT
Teithio
- Ddylai pobl DDIM teithio y tu allan i Gymru nac ymgymryd â theithio rhyngwladol heb esgus rhesymol
Mae esgus rhesymol yn cynnwys teithio at ddibenion y gwaith, addysg, apwyntiad meddygol, gofyniad cyfreithiol neu seiliau tosturiol. Os ydych chi'n teithio i Loegr, bydd angen i chi ddilyn y deddfau sydd ar waith yn Lloegr (ar GOV.UK), na allwn ni eich cynghori arnyn nhw.
Fodd bynnag, y brif neges o hyd yw y dylai pobl aros yn eu hardal leol ac yng Nghymru cymaint â phosibl.
Cwrdd â phobl eraill
- CAIFF DAU aelwyd ymuno i ffurfio aelwyd / swigen estynedig unigryw. Er mwyn helpu i gadw pawb mor ddiogel â phosibl gartref, dim ond pobl o'ch cartref neu'ch aelwyd estynedig eich hun sy'n cael cwrdd yn eich cartref preifat neu'ch gardd. Caiff aelwyd estynedig gwrdd mewn grwpiau o fwy na PHEDWAR mewn mannau awyr agored, ond nid mewn mannau sydd wedi'u cysylltu â thafarndai, caffis neu fwytai e.e. gerddi cwrw.
- Caiff grwpiau o BEDWAR o wahanol aelwydydd gwrdd mewn mannau cyhoeddus awyr agored. Fyddan nhw ddim yn cael cwrdd mewn gerddi preifat, nac yng nghartrefi ei gilydd. Uchafswm yw hwn ac nid targed - po leiaf o bobl sy'n ymgynnull, yr isaf yw'r risg.
- Cewch chi fynd i dafarndai, bwytai a chaffis gyda phobl y tu allan i'ch aelwyd, cyn belled â'ch bod yn cadw pellter corfforol oddi wrthyn nhw a dyw maint y grŵp ddim yn fwy na 4 o bobl (heb gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed neu gynhaliwr (gofalwr) aelod o'r grŵp). Fodd bynnag, uchafswm yw hwn ac nid targed - po leiaf o bobl sy'n ymgynnull, yr isaf yw'r risg.
- Bydd grwpiau mwy o bobl sydd i gyd yn byw yn yr un tŷ yn cael bwyta ac yfed allan gyda'i gilydd. Fodd bynnag, fydd dim modd i aelwydydd / swigod estynedig MWY NA phedwar o bobl eistedd gyda'i gilydd mewn tafarndai, caffis neu fwytai
- Dyw plant dan 11 oed ddim yn cyfrif tuag at nifer y bobl sy'n cael cyfarfod y tu mewn neu'r tu allan.
- CAIFF hyd at 15 o bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau dan do wedi'u trefnu a hyd at 30 mewn gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu, gan ddarparu bod yr holl bellter cymdeithasol, hylendid dwylo a mesurau diogelwch COVID-19 eraill yn cael eu dilyn. RHAID i'r gweithgareddau beidio â chynnwys gwerthu neu yfed alcohol.
- Mae mwy o fanylion ynglŷn â chwrdd ag eraill i'w gweld yma
Busnesau a gwaith
- Caiff busnesau nac ydyn nhw'n rhai hanfodol, gan gynnwys gwasanaethau cyswllt agos fel siopau trin gwallt ailagor.
- Caiff tafarndai, bwytai a chaffis ailagor - Bydd gwerthu alcohol ar ôl 22:00 yn dal i gael ei wahardd. Mae'n ofynnol i fangreoedd weithredu nifer o fesurau i gadw pobl yn ddiogel, gan gynnwys archebu ymlaen llaw gyda manylion holl aelodau o'r grŵp, darparu gwasanaeth bwrdd yn unig a byrddau sy'n cael eu gosod gyda lle/gofod rhyngddyn nhw.Mae mwy o wybodaeth am y gofynion hyn ar gael yma.
- Caiff lleoliadau cyhoeddus dan do, fel canolfannau chwarae, addoldai,cyfleusterau hamdden ailagor, ond bydd cyfyngiadau capasiti yn eu lle oherwydd mesurau ymbellhau cymdeithasol.
- Mae pobl yn cael eu hannog i weithio gartref lle bo hynny'n bosibl. Fodd bynnag, caiff pobl nad ydyn nhw'n gallu gweithio gartref, ond sy'n gallu gweithio'n ddiogel yn eu gweithleoedd, wneud hynny, ar yr amod bod eu gweithle yn parhau ar agor
Gwasanaethau'r Cyngor
- Llyfrgelloedd - Bydd y Gwasanaeth Llyfrgelloedd Cartref a'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd i Ysgolion yn gweithredu a bydd pob llyfrgell yn darparu Gwasanaeth Archebu a Chasglu o ddydd Llun, 16 Tachwedd.
- Mae gofyn i Ganolfannau Cymuned a Chanolfannau/Hybiau Cymunedol agor am nifer fach o resymau hanfodol yn unig, megis gofal plant, banciau bwyd, cymorth sgiliau cyflogaeth a grwpiau lles cymunedol sy'n darparu cefnogaeth iechyd meddwl a lles. Cysylltwch â'ch canolfan leol i weld a ydy hi ar agor, gan y bydd y mwyafrif yn aros ar gau
- Bydd atyniadau Cyngor RhCT yn parhau AR GAU
- Mae HOLL Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned Rhondda Cynon Taf bellach wedi ailagor, a byddan nhw ar agor am oriau hirach na'r arfer (8am-7.30pm) tan ddydd Sul 15 Tachwedd. O ddydd Llun 16 Tachwedd, byddan nhw dim ond ar agor o 8am tan 5.30pm).
- Bydd casgliadau gwastraff ac ailgylchu yn parhau, ond os bydd eich casgliad yn hwyr, gadewch eich gwastraff wrth ymyl y ffordd a chaiff ei gasglu cyn gynted â phosibl. Bydd casgliadau gwastraff gwyrdd yn parhau'n wythnosol tan ddydd Gwener 13 Tachwedd. Yna, bydd y casgliadau'n newid i bob pythefnos ar gyfer misoedd y gaeaf o ddydd Llun 16 Tachwedd ymlaen.
- Mae mannau chwarae a pharciau AR AGOR a dim ond grwpiau o hyd at BEDWAR ddylai'u defnyddio. Dylai pobl hefyd barhau i olchi/glanhau dwylo yn aml, osgoi bwyta neu yfed mewn parciau, sychu offer â'u cadachau eu hunain, a chadw at niferoedd isel mewn parciau ac ar offer trwy gymryd eu tro neu ddefnyddio parciau ar adegau llai prysur.
- Bydd nifer o doiledau cyhoeddus yn aros AR AGOR gan gynnwys yng nghanol y trefi y rhai sydd ym Mharc Gwledig Cwm Dâr, Parc Aberdâr a Pharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd -Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
- Mae pob cartref gofal yn parhau i ddarparu gwasanaeth hanfodol wrth gymryd pob cam angenrheidiol i leihau'r risg o drosglwyddo'r haint i'r bobl sy'n byw yno.
- Mae'r holl drefniadau gofal cymdeithasol sydd ar waith ar hyn o bryd mewn perthynas â gwasanaethau oriau dydd, seibiant a darpariaeth uniongyrchol arall, yn aros fel roedden nhw yn ystod y cyfnod atal byr o bythefnos. Mae gwybodaeth yn ymwneud â Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn ystod y cyfnod yma ar gael ar y tudalennau yma. Mae gwybodaeth yn ymwneud â Gofal Cymdeithasol i Blant yn ystod y cyfnod yma ar gael ar y tudalennau yma.
- Bydd ysgolion, lleoliadau gofal plant a cholegau yn agor ddydd Llun 9 Tachwedd a bydd cludiant rhwng y cartref a'r ysgol yn parhau yn unol â chanllawiau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru – Darllen y cwestiynau cyffredin am Ddychwelyd i'r Ysgol;
- Bydd cyfleusterau hamdden sydd dan ofal y cyngor yn ailagor ar draws y Fwrdeistref Sirol, fodd bynnag, bydd cyfyngiadau ar waith oherwydd gofynion cadw pellter cymdeithasol. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.
Mae'r neges yn glir, er bod gan bobl bellach ganiatâd i wneud y gweithgareddau hyn, dylen nhw wneud hynny'n gynnil ac yn ymwybodol. Yn yr wythnosau i ddod mae'n rhaid i ni ofyn i ni'n hunain“Beth alla i ei wneud”, ond “beth ddylwn i ei wneud ”,i gadw fy hun ac eraill yng Nghymru yn ddiogel rhag coronafirws.
- Yn ogystal â hynny i gyd uchod, parhewch i olchi'ch dwylo'n aml gyda sebon a dŵr am 20 eiliad neu defnyddiwch hylif diheintio dwylo a cadw pellter cymdeithasol (2 fetr) oddi wrth bobl eraill.
- Mae'n ofynnol i wisgo mygydau/gorchuddion wyneb tair haen sy'n gorchuddio eich ceg a'ch trwyn yng Nghymru a RHAID eu gwisgo'n addas ym MHOB man dan do a lle nad oes modd cynnal pellter cymdeithasol, oni bai bod gyda chi eithriad dilys neu feddygol dros beidio â gwneud hynny – gweler canllawiau Llywodraeth Cymru. Rydyn ni hefyd yn gofyn i drigolion eu gwisgo'n wirfoddol mewn mannau cyhoeddus prysur, gorlawn, yn yr awyr agored – gan gynnwys ar y tu allan i gatiau'r ysgol wrth gasglu/gollwng plant.
- Mae'r Cyngor hefyd yn argymell yn gryf i drigolion osgoi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac eithrio teithiau hanfodol (mynd i leoliad addysg, y gwaith, apwyntiadau meddygol, siopa am eitemau hanfodol).
Darllen y manylion llawn am fesurau diweddaraf Llywodraeth Cymru sydd mewn grym ar gyfer Cymru
Mae methu â chydymffurfio â'r mesurau a nodir uchod ac yn nogfennau perthnasol Llywodraeth Cymru yn drosedd ac mae modd iddo arwain at gamau gorfodi gan Swyddogion Gorfodi'r Cyngor a Heddlu De Cymru er mwyn diogelu eich cyd-breswylwyr a helpu i gadw RhCT a Chymru yn ddiogel.
Camau Gorfodi a Dirwyon
Rheoli ac Atal Achosion
Mae'r Cyngor yn parhau i fonitro a gweithredu lle bo angen i sicrhau bod POB busnes ac adeilad yn cydymffurfio â rheoliadau COVID-19 (Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) Rheoliadau 2020). Daeth y rheolau i rym ar 10 Awst 2020 i reoli, lleihau ac osgoi'r risg o ddod i gyswllt â COVID-19.
Mae'r Cyngor eisoes yn gweithredu i sicrhau bod pob archfarchnad fawr, siop manwerthu ac eiddo trwyddedig yn cadw at y Rheoliadau. Mae Heddlu De Cymru yn parhau i orfodi rheoliadau cyfredol Covid-19 ymhlith trigolion ledled Cymru ochr yn ochr â Charfanau Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor.
Mae Hysbysiadau Gwella eisoes wedi'u cyflwyno i'r cwmnïau canlynol ar draws Rhondda Cynon Taf yn dilyn methiannau â chydymffurfio â rheoliadau COVID-19, gan gynnwys peidio â rheoli pellter cymdeithasol a diffyg hylif glanhau a hylif diheintio'r dwylo, yn eu plith.
Mae'r rhain yn cael eu cyhoeddi ar y Dudalen Rheoli ac Atal Achosion COVID-19.
Dyma atgoffa'r cyhoedd bod dyletswydd arnyn nhw, os ydyn nhw o'r farn bod busnes, ardal neu safle ddim yn cydymffurfio, i beidio ag ymuno â'r gweithgaredd na chymryd rhan ynddo. Mae'n gyfrifoldeb arnon ni i gyd i reoli'r feirws rhag lledaenu a helpu i gadw Cymru'n ddiogel.
Profi a hunan-ynysu
Os oes gennych chi UNRHYWsymptomau'r Coronafeirws:
- gwres uchel — mae hyn yn golygu bod eich brest neu'ch cefn yn boeth o gyffwrdd â nhw (does dim angen i chi fesur eich tymheredd)
- peswch newydd, parhaus: mae hyn yn golygu peswch llawer am dros awr, neu 3 neu ragor o byliau o beswch mewn 24 awr (os ydych chi'n peswch fel arfer, gallai fod yn waeth nag arfer)
- colli'ch synnwyr arogli neu flasu neu weld newid yn y rhain — mae hyn yn golygu eich bod chi wedi sylwi nad oes modd i chi arogli neu flasu unrhyw beth, neu fod pethau yn arogli neu'n blasu yn wahanol i’r arfer
RHAID ichi hunan-ynysu gartref a gwneud cais am brawf:
Gadewch eich cartref dim ond i fynd i'r Ganolfan Brofi yn ystod y cyfnod yma, os ydy hynny'n briodol, na mynd i UNRHYW LE arall ar yr un pryd. RHAID i chi barhau i hunan-ynysu gartref nes eich bod wedi derbyn canlyniadau eich profion.
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i bobl sydd wedi profi'n bositif neu wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael prawf positif am y Coronafeirws hunan-ynysu am ddeg diwrnod (os prawf positif) neu 10 diwrnod (os ydych chi wedi bod mewn cysylltiad agos) pan fydd Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu y GIG yn gofyn ichi wneud hynny. Daw'r hysbysiad hwn trwy alwad ffôn, neges destun neu e-bost. Gall methu â gwneud hynny arwain at ddirwy neu'ch erlyn.
Mae mwy o wybodaeth am hunan-ynysu a gofynion ar gael yma.
Trwy ddod ynghyd a rhoi'r mesurau uchod ar waith, bydd modd inni droi'r llanw ar y feirws a helpu i gadw RhCT a Chymru yn ddiogel.