Skip to main content

Cyngor Rhondda Cynon Taf - Llinell Gymorth Lles

Oherwydd effaith y Coronafeirws, a lefel y newid rydyn ni yn ei brofi, mae llawer o staff yn teimlo'n bryderus ac yn ynysig.

Er mwyn cynnig cefnogaeth yn ystod yr amser anodd yma, mae'r Cyngor wedi cyflwyno Llinell Gymorth Lles ar gyfer staff, cynghorwyr a phartneriaid craidd. Mae'r llinell gymorth lles yn cynnig y gefnogaeth ganlynol: -

i)           Cyfeirio at wefan RCT Source ac ymyriadau pellach am gefnogaeth

ii)          Sesiynau un-i-un gyda'n hyfforddwyr cymwys

iii)          Galwad lles 15 munud gydag ymgynghorydd cymwys (mae'r gwasanaeth yma'n wasanaeth 'ffonio yn ôl' ac mae ar gael gyda'r nos ac ar benwythnosau yn unol ag anghenion y cleient)                                             

Mae pob galwad yn gyfrinachol fyddan nhw ddim yn rhan o unrhyw broses cofnodi iechyd galwedigaethol. Mae'r llinell gymorth ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener (ar wahan i Wyliau'r Banc) 9:00 tan 17:00.

 Mae modd i chi hefyd gyrchu'r gwasanaeth Llinell Gymorth Lles drwy:

Mae modd i weithwyr ddod o hyd i wybodaeth a chysylltiadau defnyddiol sy'n cynnwys llinellau cymorth lleol a chenedlaethol ar ein modiwlau Iechyd Meddwl a Choronafeirws ar RCT Source (https://rctlearningpool.com). 

Dosbarthwch y llyfryn sydd wedi'i atodi ymhlith y staff sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd neu at RCT Source.