Skip to main content

Diogelwch Ffrwydron a Thân Gwyllt

Daeth Rheoliadau Ffrwydron 2014 i rym ar 1 Hydref 2014.

Mae'r rheoliadau yn golygu bod rhaid i chi gael tystysgrif i storio mathau penodol o ffrwydron gan gynnwys tân gwyllt. Gweld eithriadau i'r drwydded yma.

Nodwch: O 4 Gorffennaf 2017, mae hi wedi bod yn anghyfreithlon i werthu unrhyw dân gwyllt sydd â'r hen nod BS7114 gan nad ydyn nhw'n bodloni Rheoliadau Eitemau Pyrotechnegol (Diogelwch) 2015 mwyach. Dim ond tân gwyllt sy'n cydymffurfio â'r Safonau Diogelwch Ewropeaidd sydd â'r marc CE sy'n cael eu gwerthu'n gyfreithiol i gwsmeriaid o 4 Gorffennaf 2017. 


Mae trwyddedau yn cael eu rhoi gan yr awdurdod lleol yn yr ardal mae'r ffrwydron/tân gwyllt yn cael eu cadw am hyd at 2000 cilogram (net). Mae hyn yn dibynnu ar fodloni pellteroedd gwahanu penodol mewn perthynas â mathau penodedig o adeiladau, llety, ffyrdd ac ati.

Mae trwyddedau hefyd yn cael eu rhoi gan yr heddlu a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gan ddibynnu ar faint o ffrwydron a'u natur.

Gwneud cais am drwydded i storio ffrwydron/tân gwyllt

Anfonwch y cais i'r cyfeiriad isod.

Nodwch: Wrth wneud cais am drwydded i storio ffrwydron/tân gwyllt, codir ffi sy'n dibynnu ar nifer o ffactorau.

Mae ffioedd hefyd yn gymwys os ydych chi'n dymuno amrywio'ch trwydded. Am ragor o wybodaeth ynghylch y mater yma, cysylltwch â'r garfan Bwyd ac Iechyd a Diogelwch gan ddefnyddio'r manylion isod. Os yw'r amrywiad dim ond yn cynnwys newid yr enw, y cyfeiriad neu gyfeiriad y safle sydd ar y drwydded, £37 yw'r pris am y newid.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Charfan Materion Bwyd ac Iechyd a Diogelwch neu fynd i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Carfan Materion Bwyd ac Iechyd a Diogelwch

Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Tŷ Elái
Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY

E-bost: Food.HealthandSafety@rctcbc.gov.uk
Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301