Skip to main content

Cais am ddelweddau teledu cylch cyfyng ar gyfer atal troseddau a datrys troseddau

Mae darparu recordiadau teledu cylch cyfyng (‘CCTV’) o dan Adran 29 (1) (eithriad) o Ddeddf Diogelu Data 1998 yn ddewisol, ond, mae modd caniatáu eu datgelu os yw'r achos yn gysylltiedig â'r canlynol:

a) Atal neu ddatrys troseddau

b) Dal neu erlyn tramgwyddwyr

c) Asesu neu gasglu unrhyw drethi neu dollau

Mae'r eithriad yn Adran 29 yn berthnasol i'r diben dan sylw, nid y math o sefydliad sy'n gwneud y cais; ond, gan amlaf, mae ceisiadau o'r fath yn cael eu gwneud gan yr heddlu ar gyfer atal a datrys troseddau, neu gan asiantaethau eraill y Llywodraeth / asiantaethau partner eraill ar gyfer asesu neu gasglu trethi/tollau.

Sut mae gwneud cais am weld recordiad teledu cylch cyfyng?

Rhaid gwneud pob cais yn ysgrifenedig – er enghraifft, llythyr, e-bost, ac ati. Fydd y Cyngor ddim yn ymateb i geisiadau sy'n cael eu gwneud ar lafar.

Wrth wneud cais, pa wybodaeth dylwn i ei darparu?

Mae'r ffurflen yn nodi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom ni. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth amdanoch chi ac/neu am y sefydliad rydych chi'n gweithio iddo, y recordiad sydd ei angen arnoch chi, a'r rheswm dros wneud y cais.

Bydd rhoi cymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl ar y ffurflen yn ein helpu ni i ddod o hyd i'r recordiad rydych chi'n gwneud cais am ei weld, ac yn ein galluogi ni i ymateb i'ch cais yn gyflymach.

I ble rydw i'n anfon y cais?

Mae modd anfon y cais drwy e-bost neu drwy'r post i:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Rheoli gwybodaeth/Information Management  

Canolfan Hamdden Rhondda Fach|Rhondda Fach Leisure Centre

Tylorstown

CF43 3HR

E-bost: teledu cylch cyfyngymwelydd@rctcbc.gov.uk

Pan fydd y cais yn cyrraedd y Cyngor, beth fydd yn digwydd?

Pan fydd eich cais yn cyrraedd, byddwn ni'n gwirio'r manylion i wneud yn siŵr bod gennym ni bopeth sydd ei angen ar gyfer bwrw ymlaen â'ch cais. Os bydd gennym ni'r holl wybodaeth sydd ei hangen, bydd eich cais yn cael ei ddilysu.

Sut bydd yr wybodaeth yn cael ei hanfon ata i?

Os fydd gennym ni ddim yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer bwrw ymlaen â'ch cais, byddwn ni'n cysylltu â chi ac yn gofyn am gael rhagor o wybodaeth. Mae'n bosibl byddwn ni'n cysylltu â chi drwy neges e-bost, dros y ffôn, neu drwy lythyr – yn dibynnu ar y manylion cyswllt byddwch chi wedi eu rhoi ar y ffurflen.

Sut bydd yr wybodaeth yn cael ei hanfon ata i?

Byddwn ni'n anfon y recordiad atoch chi drwy borth diogel. Byddwn ni'n rhoi cyfarwyddiadau i chi ynglŷn â sut i gael gafael ar y recordiad pan fydd wedi ei lwytho i'r porth diogel.

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r Cyngor yn defnyddio teledu cylch cyfyng, cliciwch yma.