Skip to main content

Cael delweddau ohonoch chi'ch hun

Pa hawliau sydd gen i?

Mae gennych chi'r hawl i weld delweddau ohonoch chi'ch hun ar system teledu cylch cyfyng (‘CCTV’) yn rhan o'ch hawliau cais gwrthrych am wybodaeth, a chael copi o'r delweddau hynny.

Mae gennych chi'r hawl i wneud cais pan fyddwch chi'n wrthrych y recordiad, ac am y cyfnod penodol pan fydd modd eich gweld chi'n glir. Does gennych chi ddim yr hawl i gael recordiadau sy'n cynnwys delweddau o bobl eraill neu wybodaeth am bobl eraill.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawl i wneud cais, cliciwch yma.

Am ba mor hir mae'r Cyngor yn cadw recordiadau'r system teledu cylch cyfyng?

Mae delweddau'r system teledu cylch cyfyng (‘CCTV’) yn cael eu cadw am 31 o ddiwrnodau wrth ddisgwyl cais ffurfiol.

Sut mae gwneud cais am weld recordiad ohonof fi fy hun ar system teledu cylch cyfyng?

Mae modd gwneud ceisiadau yn ysgrifenedig (llythyr/e-bost) neu ar lafar i'r Cyngor. Pan fydd ceisiadau'n cael eu gwneud ar lafar bydd angen anfon prawf o hunaniaeth a chyfeiriad atom ni ar wahân. Os bydd angen i chi wneud trefniadau gwahanol oherwydd bod gennych chi nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, byddwn ni'n gwneud addasiadau priodol.

Ydy'r Cyngor yn codi tâl? 

Ydy. Mae tâl o £10 ynghlwm wrth y gwaith chwilio. Does dim modd ad-dalu'r gost yma.

Gwnewch y siec yn daladwy i “Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf”. Nodwch eich enw a'ch cyfeiriad ar gefn y siec.

Wrth wneud cais, pa wybodaeth mae angen i mi ei darparu?

Rhaid i'r cais gynnwys digon o wybodaeth i ni allu dod o hyd i chi a'r recordiad rydych chi'n gwneud cais amdano – sef dyddiad/amser y recordiad, y lleoliad, disgrifiad o'r recordiad, y dillad roeddech chi'n eu gwisgo ac ati. Bydd rhoi cymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl yn ein helpu ni i ddod o hyd i'r recordiad rydych chi'n gwneud cais am ei weld, ac yn ein galluogi ni i ymateb i'ch cais yn gyflymach.

Fel arall, mae'r Cyngor wedi paratoi ffurflen i'w gwneud hi'n haws i chi wneud cais. Rydyn ni'n eich cynghori chi i lenwi'r ffurflen oherwydd mae'n gofyn i chi ddarparu'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnon ni i ddod o hyd i'r recordiad ac i ymateb i'ch cais (ond, dydy llenwi'r ffurflen ddim yn orfodol).

I gael ffurflen cais am weld recordiadau'r system teledu cylch cyfyng, cliciwch yma.

Wrth wneud cais, oes angen i mi ddarparu tystiolaeth o bwy ydw i?

I wneud yn siŵr ein bod ni'n darparu'r wybodaeth gywir i'r person cywir, ac i gyflymu prosesu'r cais, bydd disgwyl i chi ddarparu tystiolaeth o bwy ydych chi a'ch cyfeiriad wrth wneud cais. Bydd gwneud cais am gael recordiad y system teledu cylch cyfyng (‘CCTV’) yn golygu bydd disgwyl i chi ddarparu dull adnabod sy'n cynnwys llun ohonoch chi'ch hun – er enghraifft, pasbort neu drwydded yrru.

Dyma restr o'r dogfennau byddwn ni'n eu derbyn. Byddwn ni'n derbyn copïau o'r dogfennau, ond, os byddwn ni'n amau pwy ydych chi, mae'n bosibl byddwn ni'n mynnu gweld y dogfennau gwreiddiol:

TYSTIOLAETH O BWY YDYCH CHI

  • Pasbort
  • Trwydded Yrru (Llawn neu Dros Dro)
  • Tystysgrif Geni / Mabwysiadu
  • Tystysgrif Priodas / Partneriaeth Sifil
  • Cerdyn adnabod Lluoedd Ei Mawrhydi
  • Cerdyn adnabod yr EU
  • Tocyn bws am ddim/Pobl Anabl
  • Bathodyn Glas

TYSTIOLAETH O'CH CYFEIRIAD

  • Llythyr diweddar / dogfen ddiweddar gan y Llywodraeth (Adran Gwaith a Phensiynau, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi) – er enghraifft, P45/P60, budd-daliadau, llythyr pensiwn ac ati
  • Cyfriflen Banc / Cymdeithas Adeiladu / Cerdyn Credyd
  • Bil cyfleustodau diweddar – trydan, nwy, dŵr, ffôn, ffôn symudol ac ati

I ble rydw i'n anfon y cais?

Mae modd anfon y cais, a'r dystiolaeth ategol (tystiolaeth o bwy ydych chi a'ch cyfeiriad), mewn neges e-bost i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf neu drwy'r post i:

Rheoli gwybodaeth/Information Management  
Canolfan Hamdden Rhondda Fach|Rhondda Fach Leisure Centre
Tylorstown
CF43 3HR

**Am resymau diogelwch, peidiwch ag anfon dogfennau gwreiddiol drwy'r post.**

Anfonwch sieciau drwy'r post i'r cyfeiriad uchod.

Pan fydd fy nghais yn cyrraedd y Cyngor, beth fydd yn digwydd?

Pan fydd eich cais yn cyrraedd, byddwn ni'n gwirio'r manylion i wneud yn siŵr bod gennym ni bopeth sydd ei angen ar gyfer bwrw ymlaen â'ch cais. Os bydd gennym ni'r holl wybodaeth sydd ei hangen, bydd eich cais yn cael ei ddilysu. Yna, byddwn ni'n ysgrifennu atoch chi (drwy e-bost, fel arfer, os byddwch chi wedi rhoi eich cyfeiriad e-bost i ni, neu drwy lythyr), gan roi cyfeirnod eich cais ac erbyn pryd gallwch chi ddisgwyl cael ymateb.

Os fydd gennym ni ddim yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer bwrw ymlaen â'ch cais, byddwn ni'n cysylltu â chi ac yn gofyn am gael rhagor o wybodaeth. Mae'n bosibl byddwn ni'n cysylltu â chi drwy neges e-bost, dros y ffôn, neu drwy lythyr – yn dibynnu ar y manylion cyswllt byddwch chi wedi eu rhoi i ni.

Faint o amser sydd gan y Cyngor i gydymffurfio â fy nghais?

Ar ôl dilysu'r cais, bydd gan y Cyngor 40 o ddiwrnodau i ddarparu'r recordiad ar eich cyfer chi.

Sut bydd yr wybodaeth yn cael ei hanfon ata i?

Byddwn ni'n anfon y recordiad atoch chi drwy e-bost diogel. Os does dim modd i chi ddefnyddio cyfrif e-bost, byddwn ni'n gweithio gyda chi i ddod o hyd i ffordd arall o ryddhau'r wybodaeth i chi – er enghraifft, mae'n bosibl byddwn ni'n gofyn i chi alw heibio i swyddfa'r Cyngor, ar adeg sy'n gyfleus i bawb, a gweld y recordiad.

Nac ydy. Mae'r hawl i wneud cais yn eich galluogi chi i gael gwybodaeth bersonol amdanoch chi'ch hun yn unig.

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r Cyngor yn defnyddio teledu cylch cyfyng, cliciwch yma