Skip to main content

Oriau Agor y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd 2022

Cyn gwyliau'r banc, gwyliau tymhorol, neu os bydd tywydd garw, fe wnawn ein gorau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y dudalen yma, gan gynnwys y sefyllfa o ran gwasanaethau'r Cyngor sydd ar gael, a'r ffyrdd a'r ysgolion sydd ar gau.

I gael y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ni ar Twitter a hoffwch ni ar Facebook.

Oriau Agor y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd 2022

Bydd y Cyngor, gan gynnwys y Ganolfan Alwadau i Gwsmeriaid AR GAU o 4pm ddydd Gwener 23 Rhagfyr tan 9am ddydd Mawrth 3 Ionawr 2023 – mae hyn yn berthnasol i BOB prif wasanaeth heblaw am argyfyngau tu allan i oriau'r swyddfa a rhai gwasanaethau hanfodol.

Os nad ydych chi'n gweld yr adran rydych chi'i heisiau isod, trowch i'r tudalennau neu wefannau unigol am wybodaeth ynglŷn â'u horiau agor dros y Nadolig. 

Bydd modd i chi ddefnyddio ystod o wasanaethau ar-lein yn ystod y cyfnod yma, ond rhaid i drigolion gofio efallai na fydd ceisiadau yn cael eu prosesu tan y bydd swyddfeydd yn ailagor am 9am ddydd Mawrth 3 Ionawr 2023.

Biniau ac ailgylchu

BYDD eich casgliadau Ailgylchu a Gwastraff YN NEWID dros y Nadolig. Gadewch eich eitemau yn eich man casglu arferol ar eich diwrnod casglu newydd. Mae hyn yn berthnasol i BOB casgliad ailgylchu, gan gynnwys cewynnau, bwyd a bagiau ailgylchu CLIR.

Mae modd dod o hyd i fanylion LLAWN ar y tudalennau yma

Fydd gwastraff gwyrdd DDIM yn cael ei gasglu yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 26 Rhagfyr, er mwyn i ni allu defnyddio cymaint o adnoddau â phosibl i gasglu'r llwyth mawr o wastraff ailgylchu rydyn ni'n ei ddisgwyl eleni. Bydd gwasanaethau arferol yn ailddechrau ddydd Llun 16 Ionawr.

Casgliadau'r wythnos sy'n dechrau Dydd Llun 26 Rhagfyr  

Bydd casgliadau dydd Llun 26 Rhagfyr yn symud i ddydd Mawrth 27 Rhagfyr. Bydd pob casgliad ddiwrnod yn hwyrach na'r arfer. Hynny yw bydd casgliad dydd Mawrth ar ddydd Mercher, dydd Mercher ar ddydd Iau, dydd Iau ar ddydd Gwener, a dydd Gwener ar ddydd Sadwrn.

Bydd rhaid gosod gwastraff a deunydd ailgylchu'r cartref (ynghyd â gwastraff bwyd, cewynnau a bagiau ailgylchu CLIR) yn y man arferol erbyn 7am ar y diwrnod casglu dros dro.

Casgliadau'r wythnos yn dechrau Dydd Llun 2 Ionawr 2023 

Fydd eich casgliadau bagiau ailgylchu CLIR, bwyd, cewynnau a gwastraff bagiau du wythnosol DDIM YN NEWID yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 2 Ionawr (wythnos y flwyddyn newydd).

Bydd rhaid gosod gwastraff a deunydd ailgylchu'r cartref (ynghyd â gwastraff bwyd a chewynnau) yn y man arferol erbyn 7am ar y diwrnod casglu arferol.

Os nad yw'ch gwastraff / eitemau ailgylchu wedi cael eu casglu yn ôl y disgwyl, gadewch yr eitemau ar y pafin. Mae'n bosibl bod ein gweithwyr yn gweithio oriau ychwanegol er mwyn ateb y galw. Bydd ein gweithwyr yn gweithio gyda'r nos ar adegau prysur.

Mae bellach modd gweld gwybodaeth am eich diwrnod casglu ar-lein - mae hyn yn cynnwys newidiadau i gasgliadau’r Nadolig.


'Cemeteries and Bereavement Services

Mae'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ar agor rhwng 8am a 5.30pm bob dydd ac eithrio 24 a 31 Rhagfyr pan fyddan nhw'n cau am 3.30pm. Bydd pob canolfan ar gau Ddydd Nadolig, Dydd San Steffan, Dydd Calan gan ail-agor ddydd Llun 2 Ionawr 2023.

Mae'r Cyngor hefyd yn cynnig gwasanaeth ailgylchu coed Nadolig rhwng 2 Ionawr ac 16 Ionawr 2022. Bellach, mae modd i drigolion drefnu amser i ni gasglu'u coeden yn ystod y cyfnod yma.

Ar ôl y cyfnod yma, bydd eich coeden yn cael ei chasglu yn rhan o'r gwasanaeth gwastraff gwyrdd arferol.

Mae gwybodaeth fwy manwl am hwn ar gael ar dudalennau ailgylchu'r Nadolig ar y wefan yma. 

Ewch i'r tudalennu ailgylchu am wybodaeth gyffredinol am ailgylchu, gan gynnwys dod o hyd i'ch diwrnod casglu a chanllawiau clir am yr hyn mae modd ei ailgylchu.

Gofal Cymdeithasol

Os oes angen i chi gysylltu ag aelod o'r Garfan Gofal Cymdeithasol dros gyfnod y Nadolig, defnyddiwch y rhifau ffôn canlynol:

  • Carfan Gwasanaethau Gofal i Oedolion: 01443 425003
  • Carfan Gwasanaethau i Blant: 01443 425006
  • Materion Gofal Cymdeithasol Brys tu allan i oriau'r swyddfa, gan gynnwys penwythnosau, gwyliau'r banc a chyfnod y Nadolig: 01443 743665

Pryd-ar-glud

Bydd y garfan yn cefnogi ei chleientiaid dros gyfnod y Nadolig ac mae bwydlen wedi'i darparu i'r holl gleientiaid i archebu ymlaen llaw lle bo angen. 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y tudalennau yma. 

Digartrefedd

Mae gwybodaeth a chyngor ar gael ar dudalen digartrefedd y wefan yma.

Mae gwasanaeth brys y tu allan i oriau arferol y swyddfa  hefyd ar gael drwy gydol cyfnod y Nadolig drwy ffonio 01443 425011.

Y Swyddfa Gofrestru

Fydd y swyddfa gyffredinol DDIM ar agor dros gyfnod y Nadolig – 24 Rhagfyr hyd at 2 Ionawr 2023 – i fynd i'r afael â cheisiadau/materion sy'n ymwneud â thystysgrifau.

Bydd y Swyddfa Gofrestru, Prif Adeiladau'r Cyngor, Pontypridd ar agor fel a ganlyn dros gyfnod y Nadolig: 

Dydd Iau 22 Rhagfyr

AR AGOR

Dydd Gwener 23 Rhagfyr 

AR AGOR

Dydd Sadwrn 24 Rhagfyr (Noswyl Nadolig)

AR GAU / Seremonïau wedi'u trefnu yn unig

Dydd Sul 25 Rhagfyr (Dydd Nadolig)

AR GAU

Dydd Llun 26 Rhagfyr (Dydd San Steffan)

AR GAU / Seremonïau wedi'u trefnu yn unig

Dydd Mawrth 27 Rhagfyr 

AR GAU / Seremonïau wedi'u trefnu yn unig

Dydd Mercher 28 Rhagfyr

AR AGOR

Dydd Iau 29 Rhagfyr  

AR AGOR 8.30am – 1pm

Dydd Gwener 30 Rhagfyr (apwyntiadau yn unig)

AR AGOR 8.30am – 1pm

Dydd Sadwrn 31 Rhagfyr (Nos Galan)

AR GAU / Seremonïau wedi'u trefnu yn unig

Dydd Sul 1 Ionawr 2023

AR GAU / Seremonïau wedi'u trefnu yn unig

Dydd Llun 2 Ionawr 2023

AR GAU / Seremonïau wedi'u trefnu yn unig

Dydd Mawrth 3 Ionawr 2023

GWASANAETHAU ARFEROL YN AILDDECHRAU  

Mynwentydd a Gwasanaethau Profedigaethau

Bydd y brif swyddfa (Glyntaf) yn dilyn y drefn yma dros gyfnod y Nadolig: 

Dydd Iau 22 Rhagfyr

AR AGOR – gwasanaethau claddu llawn tan 2pm yn unig

Dydd Gwener 23 Rhagfyr 

AR AGOR – gwasanaethau claddu llawn tan 2pm yn unig

Dydd Sadwrn 24 Rhagfyr (Noswyl Nadolig)

AR GAU

Dydd Sul 25 Rhagfyr (Dydd Nadolig)

AR GAU

Dydd Llun 26 Rhagfyr (Dydd San Steffan)

AR GAU

Dydd Mawrth 27 Rhagfyr 

AR GAU

Dydd Mercher 28 Rhagfyr

AR AGOR 10am  – 3pm

Dydd Iau 29 Rhagfyr  

AR AGOR 10am  – 3pm

Dydd Gwener 30 Rhagfyr 

AR AGOR 10am  – 3pm

Dydd Sadwrn 31 Rhagfyr (Nos Galan)

AR GAU

Dydd Sul 1 Ionawr 2023

AR GAU

Dydd Llun 2 Ionawr 2023

AR GAU

Dydd Mawrth 3 Ionawr 2023

AR AGOR

Dydd Mercher 4 Ionawr 2023

AR AGOR

Dydd Iau 5 Ionawr 2023

GWASANAETHAU ARFEROL YN AILDDECHRAU  

Bydd gwasanaethau claddu llawn ar gael ar 22 a 23 Rhagfyr tan 2pm. Rhaid derbyn yr holl waith papur perthnasol erbyn 3pm ddydd Gwener 16 Rhagfyr ar yr hwyraf.

Fydd dim modd cynnal gwasanaethau  claddu llawn nac ar gyfer gweddillion amlosgedig ar ddyfnder llawn yn ein mynwentydd o ddydd Mercher 28 Rhagfyr hyd at ddydd Mawrth 3 Ionawr 2023.

Dylid cyflwyno dogfennau wedi'u cwblhau ar gyfer gwasanaethau claddu wedi'u hamserlennu ar gyfer 5 Ionawr erbyn 3pm ar 21 Rhagfyr 2022 ar yr hwyraf.

Bydd ein gwasanaethau yn ailddechrau yn llawn ar 5 Ionawr 2023.  

Ar hyn o bryd, does dim newidiadau ar gyfer tiroedd  mynwentydd dros gyfnod y Nadolig.

Bydd tiroedd mynwentydd ar agor bob dydd o 9am tan 4pm, hyd yn oed ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan. 

Ambell waith, mae amgylchiadau eithriadol yn codi pan fydd rhaid inni gau mynwentydd i gerbydau ar fyr rybudd.  

Os bydd raid cau ffyrdd i gerbydau i mewn i fynwent, caiff hysbysiad ei osod ar gatiau'r fynwent a fydd yn rhoi gwybod i'r cyhoedd. Cyn gynted ag y bydd yn ddiogel, caiff gatiau'r fynwent i gerbydau eu hagor.  

Mae modd i gerddwyr ymweld â'r fynwent hyd yn oed os na allwn ni roi mynediad i gerbydau, ond cofiwch fod yn ofalus wrth ymweld â'n mynwentydd mewn tywydd garw a gwisgwch ddillad ac esgidiau addas er mwyn osgoi damweiniau a niwed.  

Cyfleusterau Cyhoeddus

Bydd yr holl doiledau cyhoeddus ledled Rhondda Cynon Taf yn gweithredu'r oriau canlynol dros yr ŵyl:

Dydd Iau 22 Rhagfyr

AR AGOR

Dydd Gwener 23 Rhagfyr 

AR AGOR

Dydd Sadwrn 24 Rhagfyr (Noswyl Nadolig)

Ar AGOR tan 4pm

Dydd Sul 25 Rhagfyr (Dydd Nadolig)

AR GAU

Dydd Llun 26 Rhagfyr (Dydd San Steffan)

AR GAU

Dydd Mawrth 27 Rhagfyr 

AR GAU

Dydd Mercher 28 Rhagfyr

AR AGOR

Dydd Iau 29 Rhagfyr  

AR AGOR 

Dydd Gwener 30 Rhagfyr 

AR AGOR

Dydd Sadwrn 31 Rhagfyr (Nos Galan)

Ar AGOR tan 4pm

Dydd Sul 1 Ionawr 2023

AR GAU

Dydd Llun 2 Ionawr 2023

AR GAU

Dydd Mawrth 3 Ionawr 2023

GWASANAETHAU ARFEROL YN AILDDECHRAU  

Mae modd gweld manylion llawn a lleoliadau ar 'r cyfleusterau yma mewn -Toiledau Cyhoeddus.

Canolfannau hamdden

Ewch i'r wefan Hamdden neu ddilyn @RCTLeisureService ar Facebook i gael manylion am oriau agor eich canolfan leol.

Taith Pyllau Glo Cymru

Ewch i wefan Taith Pyllau Glo Cymru neu ddilyn @RhonddaHeritagePark ar Twitter neu @RhonddaHeritagePark ar Facebook am fanylion achlysuron ac oriau agor.

Lido Cenedlaethol Cymru – Lido Ponty

Ewch i wefan Lido Ponty neu ddilyn @LidoPonty ar Twitter a Facebook am fanylion gweithgareddau ac oriau agor.

Llyfrgelloedd

Bydd llyfrgelloedd yn cau am 1pm ar 24 Rhagfyr (Noswyl Nadolig) ac yn ail-agor ddydd Mawrth 3 Ionawr 2023.

Manylion am Wasanaethau'r Llyfrgelloedd

  • Bydd Canolfan Dysgu Gydol Oes Gartholwg ar gau o 24 Rhagfyr tan 3 Ionawr 2023 a bydd gweithgareddau yn dechrau yr wythnos ganlynol

Gwasanaeth IBobUn y Cyngor

Bydd swyddfeydd IBobUn yn cau ddydd Sadwrn 24 Rhagfyr (Noswyl Nadolig) ac yn ail-agor ddydd Mawrth 3 Ionawr 2023.

Parc Gwledig Cwm Dâr

Dyma fydd oriau gweithredu Parc Gwledig Cwm Dâr dros gyfnod y Nadolig:

Dydd Iau 22 Rhagfyr

AR AGOR

Dydd Gwener 23 Rhagfyr 

Swyddfa a thoiledau ar agor 9am – 4pm

Dydd Sadwrn 24 Rhagfyr (Noswyl Nadolig)

Swyddfa ar gau, toiledau ar agor 9am – 3pm

Dydd Sul 25 Rhagfyr (Dydd Nadolig)

AR GAU

Dydd Llun 26 Rhagfyr (Dydd San Steffan)

AR GAU

Dydd Mawrth 27 Rhagfyr 

AR GAU

Dydd Mercher 28 Rhagfyr

Swyddfa a thoiledau ar agor 9am – 4pm

Dydd Iau 29 Rhagfyr  

Swyddfa a thoiledau ar agor 9am – 4pm 

Dydd Gwener 30 Rhagfyr 

Swyddfa a thoiledau ar agor 9am – 4pm

Dydd Sadwrn 31 Rhagfyr (Nos Galan)

Swyddfa ar gau, toiledau ar agor 9am – 3pm

Dydd Sul 1 Ionawr 2023

AR GAU

Dydd Llun 2 Ionawr 2023

AR GAU

Dydd Mawrth 3 Ionawr 2023

GWASANAETHAU ARFEROL YN AILDDECHRAU  

Mae modd dod o fyd i fanylion llawn am y cyfleuster yma - Parc Gwledig Cwm Dâr

Theatrau

Ewch i wefan Theatrau RhCT neu ddilyn @RCTtheatres ar Twitter a @ColiseumTheatreAberdare @ParkandDare ar Facebook am fanylion.

Cau Ysgolion a Chludiant Ysgol

Dilynwch y dolenni isod i fwrw golwg ar yr wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion sy wedi'u cau, amserlenni tymhorau'r ysgolion a chludiant ysgol.

Ffyrdd ar Gau

Dyma'r tudalennau ar gyfer gwybodaeth am ffyrdd sydd ar gau:

  • Ffyrdd ar Gau

Trafnidiaeth gyhoeddus

Cewch chi'ch cynghori i gysylltu â'r cwmnïau perthnasol yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth am newidiadau i wasanaethau yn ystod cyfnod y Nadolig ac yn ystod tywydd garw.

Cysylltu â'r Cyngor mewn Argyfwng:

Er gwybodaeth i bob preswylydd, mae modd cysylltu â'r Cyngor os bydd argyfwng dros Ŵyl y Banc drwy ffonio 01443 425011, tu allan i oriau gweithio neu os bydd tywydd garw, 24 awr y dydd a saith diwrnod yr wythnos.