Skip to main content

Premiymau Treth y Cyngor ar gyfer eiddo gwag ac ail gartrefi

Bydd eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi yn Rhondda Cynon Taf yn denu premiwm Treth y Cyngor - bydd rhaid talu treth ychwanegol ar ben Treth y Cyngor arferol.

Mae bwriad i'r disgresiwn codi premiwm sydd wedi'i roi i Gynghorau gael ei ddefnyddio yn adnodd i helpu'r Cyngor ynglŷn â'r canlynol:

  • Gwella cartrefi sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir fel eu bod nhw'n addas i'w defnyddio eto er mwyn darparu cartrefi diogel, sefydlog a fforddiadwy
  • Cefnogi Cynghorau i gynyddu nifer y tai fforddiadwy sydd ar gael a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol.

Beth yw ystyr 'gwag tymor hir'?

Eiddo gwag tymor hir yw annedd sydd heb unrhyw un yn byw ynddo ac sydd wedi bod heb ddodrefn ers cyfnod parhaus o flwyddyn neu ragor.

Os yw unigolyn yn symud i mewn i'r eiddo neu'n rhoi dodrefn ynddo am un cyfnod neu ragor hyd at 6 wythnos yn ystod y flwyddyn, fydd hyn ddim yn effeithio ar statws yr eiddo gwag hir dymor. Hynny yw, fydd unigolyn ddim yn newid statws yr eiddo ('gwag hir dymor') drwy symud i mewn iddo neu roi dodrefn ynddo am gyfnod byr.

Pan mae Cyngor yn penderfynu gosod premiwm ar eiddo gwag tymor hir, mae'n bosibl y bydd yn nodi canrannau amrywiol ar gyfer eiddo gwahanol yn seiliedig ar hyd y cyfnod maen nhw wedi bod yn wag. Mae hyn yn golygu bod modd i gynghorau lleol roi'r drefn ar waith mewn camau graddol.

Ail gartrefi

Diffinnir ail gartref fel annedd nad yw'n unig neu'n brif gartref i rywun, sydd wedi'i ddodrefnu'n sylweddol. Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn cyfeirio atyn nhw fel anheddau sy'n cael eu meddiannu o bryd i'w gilydd, ond fel arfer, maen nhw'n cael eu galw'n 'ail gartrefi'.

Oes unrhyw eithriadau i'r premiwm?

Isod mae rhestr o eithriadau i'r premiwm a allai fod yn berthnasol i chi:

  • Dosbarth 1 - anheddau sydd ar y farchnad i gael eu gwerthu neu sydd â chynnig wedi'i dderbyn (mae'r eithriad yma wedi'i gyfyngu i 1 flwyddyn, rhagor o fanylion isod)
  • Dosbarth 2 - anheddau sydd ar y farchnad i gael eu rhentu neu sydd â chynnig i rentu sydd wedi cael ei dderbyn (mae'r eithriad yma wedi'i gyfyngu i 1 flwyddyn, rhagor o fanylion isod)
  • Dosbarth 3 – rhandai sy'n ffurfio rhan, neu'n cael eu trin fel rhan, o'r brif annedd
  • Dosbarth 4 – anheddau a fyddai'n unig gartref neu'n brif gartref person pe na bai ef/hi yn byw mewn llety sy'n cael ei ddarparu gan y lluoedd arfog
  • Dosbarth 5 – safleoedd carafanau ac angorfeydd cychod sydd wedi eu meddiannu (ail gartrefi yn unig)
  • Dosbarth 6 - anheddau sy'n wag oherwydd bod amod cynllunio yn atal pobl rhag eu meddiannu'n barhaol neu gydol y flwyddyn, neu'n nodi bod yr eiddo i'w ddefnyddio yn llety gwyliau yn unig neu'n atal yr annedd rhag cael ei ddefnyddio yn brif breswylfa (ail gartrefi'n unig)
  • Dosbarth 7 - anheddau sy'n ymwneud â swyddi (ail gartrefi'n unig) - gweler rhagor o fanylion isod

Dosbarth 1: anheddau sydd ar werth

Mae'r eithriad yma'n berthnasol i'r premiwm ar eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi. Mae'r eithriad yma'n berthnasol i anheddau sy'n cael eu marchnata i'w gwerthu. Mae hefyd yn berthnasol i anheddau sydd â chynnig wedi'i dderbyn ond lle nad yw'r gwerthiant wedi'i gwblhau hyd yn hyn.

I fod yn gymwys ar gyfer yr eithriad yma rhaid i eiddo fod ar werth am bris rhesymol. Bydd raid i'r perchennog atebol y gallu i ddangos i'r Awdurdod Lleol yn foddhaol ei fod yn marchnata'r eiddo am bris rhesymol sef pris y byddai disgwyl iddo werthu amdano ar y farchnad agored.

Wrth ystyried a yw eiddo yn gymwys i fod yn eithriad, mae'n bosibl y bydd Cyngor yn dymuno ystyried ystod o ffactorau sy'n ymwneud â gwerthu eiddo, megis:

  • ers pryd mae eiddo yn yr ardal wedi bod ar werth
  • pris cyfartalog a'r hyd mae anheddau tebyg ar y farchnad yn yr ardal leol
  • a oes amodau cyfyngol gormodol, megis y pris, wedi'u gosod ar yr eiddo er mwyn atal ei werthu
  • unrhyw ffactorau rhesymol eraill

I benderfynu a yw eiddo ar y farchnad i gael ei werthu neu beidio, efallai y bydd Cyngor yn dymuno ystyried y mathau amrywiol o dystiolaeth a allai gynnwys y canlynol:

  • Eiddo yn cael ei restru ar wefannau hysbysebu, er enghraifft gwefannau gwerthwyr tai megis Rightmove a Zoopla, neu dystiolaeth o ffyrdd eraill mae'r eiddo yn cael ei farchnata
  • cytundeb gyda gwerthwr tai
  • rhestrau gwerthwyr/asiantau tai neu fanylion gwerthiant os yw'n cael ei werthu'n breifat
  • Tystysgrif Perfformiad Ynni (pan gaiff eiddo ei adeiladu neu ei werthu)

Mae'r cyfnod eithrio yn para hyd at flwyddyn o'r dyddiad y caiff eithriad ei warantu ond mae modd ei ymestyn pe bydd pob parti perthnasol yn cytuno ar werthiant sydd ddim yn cael ei gwblhau o fewn blwyddyn o ddechrau'r cyfnod eithrio. Byddai'r eithriad yma'n dod i ben ar ddyddiad gwerthiant yr eiddo. Ar ôl i eithriad ddod i ben, fydd eiddo sy'n cael ei farchnata i'w werthu ddim yn gymwys i gael cyfnod eithrio pellach heblaw ei fod wedi cael ei werthu.

Dosbarth 2:

Mae'r eithriad yma'n berthnasol i'r premiwm ar eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi. Dydy hyn ddim yn cynnwys anheddau sy'n cael eu marchnata i gael eu rhentu. Mae'n berthnasol i anheddau sydd â chynnig i rentu wedi'i dderbyn ond dydy'r tenant ddim yn gymwys i fyw yno gan nad yw'r denantiaeth wedi dechrau.

I fod yn gymwys ar gyfer yr eithriad yma, rhaid i berchennog atebol brofi i'r Cyngor ei fod yn marchnata'r eiddo am bris rhesymol e.e. y rhent y byddai disgwyl i rywun ei dalu am yr eiddo yn seiliedig ar gost eiddo tebyg.

Wrth ystyried a yw eithriad yn berthnasol, efallai y bydd Cyngor yn dymuno ystyried ystod o ffactorau sy'n ymwneud â rhoi eiddo ar osod, megis y canlynol:

  • ers pryd mae eiddo yn yr ardal wedi bod ar werth
  • rhent cyfartalog ac amser ar y farchnad ar gyfer eiddo tebyg yn yr ardal leol
  • a oes amodau cyfyngol gormodol megis y rhent yn atal yr eiddo rhag cael ei rentu
  • unrhyw ffactorau rhesymol eraill

Er mwyn i Gyngor benderfynu a yw perchennog atebol yn marchnata'r eiddo, mae'n bosibl y bydd Awdurdod Lleol yn dymuno ystyried mathau amrywiol o dystiolaeth a allai gynnwys y canlynol:

  • cytundeb gyda gwerthwr tai
  • rhestrau neu daflen wybodaeth gwerthwyr tai
  • rhif cofrestru a thrwydded landlord ac asiant ar gyfer eiddo sy'n cael ei farchnata i'w rentu drwy Rhentu Doeth Cymru 
  • rhestrau tai o eiddo sy'n cael eu cynnig i'w rhentu gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
  • Tystysgrif Perfformiad Ynni (pan gaiff eiddo ei adeiladu neu ei rentu)
  • Tystysgrif diogelwch nwy dilys ar gyfer eiddo sy'n cael eu rhentu

Mae'r cyfnod eithrio yn para hyd at flwyddyn o ddyddiad yr eithriad. Ar ôl i'r cyfnod eithrio ddod i ben, fydd eiddo sy'n cael ei farchnata i'w rentu ddim yn gymwys i gael cyfnod eithrio arall heblaw ei fod yn destun tenantiaeth o 6 mis neu ragor.

Dosbarth 7 – Eiddo sy'n gysylltiedig â swyddi

Mae'r eithriad yma'n berthnasol i'r premiwm ail gartrefi ac eiddo sy'n cael eu meddiannu gan berson cymwys. Mae'r meini prawf ar gyfer person cymwys wedi'i nodi o dan Rhan 1, Dosbarth 7.

Wrth ystyried cymhwysedd ar gyfer yr eithriad yma, efallai y bydd Cyngor yn dymuno gwneud cais am fmathau penodol o dystiolaeth i brofi bod angen person atebol mewn eiddo sy'n gysylltiedig â swyddi. Gallai hyn gynnwys y canlynol:

  • Cytundeb Cyflogaeth
  • Hysbysiad Galw am Dalu Treth y Cyngor (i ddangos atebolrwydd mewn perthynas ag eiddo arall os yw'r prif neu'r ail gartref yn y DU)
  • Ffurflenni treth neu ddatganiadau tâl
  • Llythyr Enwadol (mewn perthynas â Gweinidog Crefydd)
  • Llythyr neu gytundeb ysgrifenedig gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn (mewn perthynas â'r Lluoedd Arfog)

Os ydych chi o'r farn eich bod chi'n gymwys i gael eich eithrio, gwneud cais

Beth os nad yw fy eiddo'n gymwys am eithriad?

Byddwch chi'n destun premiwm 50% ar Dreth y Cyngor os yw eich eiddo wedi bod yn wag ers rhwng 1 a 2 flynedd a phremiwm 100% os yw eich eiddo wedi bod yn wag ers dros 2 flynedd. Bydd y rheolau yma'n dod i rym ar 1 Ebrill 2023.

O 1 Ebrill 2023 ymlaen bydd pob ail gartref yn destun premiwm 100% ar Dreth y Cyngor.

Pe hoffech chi weithio gyda'r Cyngor er mwyn dechrau ailddefnyddio eich eiddo, bwriwch olwg ar ein gwefan: www.rctcbc.gov.uk/emptyproperties.

Cwestiynau Cyffredin

Rwy'n berchen ar eiddo gwag. Sut bydda i'n cael gwybod fy mod i'n atebol i dalu'r premiwm a pha mor hir ymlaen llaw bydda i'n cael gwybod?

Ysgrifennon ni at bob perchennog sy'n destun i'r premiwm eiddo gwag tymor hir ym mis Ionawr 2023 yn rhoi gwybod y byddai'n rhaid talu'r premiwm o 1 Ebrill 2023 ymlaen. Bydd eiddo sy'n rhan o'r categori yma'n derbyn bil Treth y Cyngor yn dangos y premiwm. Os yw eich eiddo chi'n debygol o fod yn wag am flwyddyn neu'n hirach erbyn 1 Ebrill 2023 ac hoffech chi gymorth neu gyngor, cysylltwch â'r Cyngor. Bydd rhagor o wybodaeth wedi'i chynnwys gyda'ch bil Treth y Cyngor ym mis Mawrth 2023.

Rwy'n berchen ar ail gartref. Sut bydda i'n cael gwybod fy mod i'n atebol i dalu'r premiwm a pha mor hir ymlaen llaw bydda i'n cael gwybod?

Ysgrifennon ni at bob perchennog sy'n destun i'r premiwm eiddo gwag tymor hir ym mis Ionawr 2023 yn rhoi gwybod y byddai'n rhaid talu'r premiwm o 1 Ebrill 2024 ymlaen. Byddwn ni'n ysgrifennu at berchnogion unrhyw eiddo arall sy'n cael ei nodi yn ail gartref maes o law. Os ydych chi'n derbyn llythyr ond o'r farn na ddylai eich eiddo fod yn y categori yma, cysylltwch â ni.

Adroddiad y Cyngor - dilynwch y ddolen yma i weld adroddiad y Cyngor