Skip to main content

Diystyru/eithrio pobl sy'n gadael gofal

Ar 1 Ebrill 2019, cyflwynodd Llywodraeth Cymru eithriad newydd o dreth y cyngor ar gyfer categori penodol o unigolion, sef pobl sydd wedi gadael amgylchedd 'Gofal'.

Mae modd i berson gael ei eithrio rhag gorfod talu treth y cyngor neu dderbyn gostyngiad diystyru o 25% lle mae'n un o ddau oedolyn sy'n byw yn yr eiddo os yw ef/hi:

  • Yn unigolyn sy'n 24 oed neu'n iau ac wedi gadael gofal ac
  • Yn berson ifanc categori 3 fel y'i diffinnir gan adran 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 204 (5).

Os ydych chi'n credu eich bod chi'n gymwys, argraffwch y ffurflen atodedig, a'i llenwi a'i dychwelyd neu ffoniwch y Cyngor ar (01443) 425002 neu e-bostiwch refeniw@rctcbc.gov.uk

Llenwch a llofnodwch y ffurflen ac yna ewch â hi i'ch 'Cynghorydd Personol' neu'r sefydliad sy'n eich helpu chi. Rhaid iddyn nhw lenwi a llofnodi 'Adran 2' y ffurflen er mwyn i chi fod yn gymwys. Os nad yw 'Adran 2' wedi'i llenwi a'i llofnodi, ni fyddwch chi'n derbyn unrhyw ostyngiad yn eich bil treth y cyngor, p'un a ydych yn bodloni'r ddau faen prawf a amlinellwyd uchod ai peidio.

Rhaid anfon y ffurflen wedi'i llofnodi at y Cyngor. Mae modd i chi wneud hyn drwy anfon y ffurflen i gyfeiriad swyddfa'r Cyngor sydd ar y ffurflen neu drwy fynd â hi i'ch canolfan 'IBobUn' agosaf.

Dyma'r polisi newydd: Insert Document when available 

Gwneud eich cais am Ostyngiad Treth y Cyngor i'r Rhai sy'n Gadael Gofal