Skip to main content

Cronfa Galedi Cymorth Costau Byw Leol - Cymorth Cymunedol

Cronfeydd Costau Byw Lleol - Cymorth i’r Gymuned

Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gronfeydd ar gael i grwpiau a sefydliadau lleol sy'n cynorthwyo trigolion yn eu cymunedau sydd angen cymorth yn ystod yr Argyfwng Costau Byw.

Mae'r gronfa yma'n cynnwys dwy elfen:

Canolfannau Croeso yn y Gaeaf / Cronfa Galedi'r Gaeaf

Er bod y cais am grant ariannol ar gyfer Canolfan Groeso yn y Gaeaf bellach wedi cau, mae modd i'ch lleoliad gofrestru fel Canolfan Groeso yn y Gaeaf yn Rhondda Cynon Taf o hyd. Os oes gan eich sefydliad chi ddiddordeb mewn cofrestru i fod yn Ganolfan Groeso yn y Gaeaf, cofrestrwch AR-LEIN yma. 

Cronfa Cymorth Bwyd

Cymorth i Fanciau Bwyd – pecyn cymorth i fanciau bwyd lleol a grantiau cymorth bwyd.

Mae'r Cyngor wedi sefydlu rhwydwaith bwyd, a bydd y Cyngor yn cysylltu â'r sefydliadau yma i wneud cais am gymorth. Os nad yw eich sefydliad chi'n rhan o'n rhwydwaith bwyd, mae modd ichi ofyn i ymuno drwy e-bostio rhctgydangilydd@rctcbc.gov.uk

Mae'r Gronfa Cymorth Bwyd wedi'i hariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Llywodraeth Cymru a Trivallis.