Skip to main content

Beth yw gofal a pham ydw i wedi dechrau derbyn gofal?

Beth ydy gofal?

Byw mewn gofal yw pan fyddi di'n byw i ffwrdd oddi wrth dy rieni. Byddai modd i ti fyw:

  • gyda rhieni maeth
  • gydag aelod arall o'r teulu
  • mewn cartref plant
  • mewn ysgol breswyl
  • yn lled-annibynnol gyda'n cefnogaeth ni.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod gyda ti rywle diogel i fyw.

 Pam ydw i wedi dod i mewn i'r system ofal?

Mae llawer o resymau gwahanol dros ddod i mewn i'r system ofal. Er enghraifft:

  • Does dim modd i dy deulu ofalu amdanat ti ar hyn o bryd
  • Mae pethau'n anodd gartref
  • Er mwyn dy gadw di'n ddiogel

Mae modd i dy Weithiwr Cymdeithasol ddweud wrthot ti pam dy fod di wedi dod i mewn i'r system ofal.