Skip to main content

Beth sy'n digwydd pan fydda i'n derbyn gofal?

Byddwn ni’n penodi Gweithiwr Cymdeithasol neu Reolwr Materion Asesu Gofal ar dy gyfer di pan fyddi di'n dod i mewn i'r system ofal. Byddan nhw'n gwneud yn siŵr dy fod di'n ddiogel ac yn derbyn gofal da. Byddan nhw hefyd yn:

  • dod o hyd i gartref i ti, sy'n addas ar gyfer dy anghenion/amgylchiadau, ac weithiau mae modd i hyn fod gyda rhieni maeth, mewn Cartref Preswyl neu gydag aelodau'r teulu
  • gwneud yn siŵr dy fod di'n mynd i'r ysgol
  • gwneud yn siŵr dy fod di'n cael unrhyw ofal iechyd sydd ei angen arnat ti.
  • Bydd dy weithiwr cymdeithasol yn ymweld â ti yn ystod dy wythnos gyntaf yn dy gartref newydd, ac yna bob 6 wythnos wedi hynny.

Beth yw Cynllun Gofal a Chymorth?

Mae gan bob plentyn sy'n derbyn gofal/plentyn sydd â phrofiad o dderbyn gofal Gynllun Gofal a Chymorth a gaiff ei alw'n aml yn Rhan 6 neu’n Gynllun Llwybr. Mae'r cynllun yma'n ymwneud â ti a dy anghenion. Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol yn siarad â ti, yn gwrando arnat ti ac yn ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gyda ti wrth gwblhau'r cynllun. Mae'n cynnwys trefniadau amser teulu, ble rwyt ti'n byw (lleoliad), iechyd, addysg, cynlluniau ar gyfer y dyfodol ac unrhyw beth arall rwyt ti'n meddwl sy'n bwysig i ti. Mae'r cynllun yn dweud pwy ddylai wneud beth gyda ti, ac i ti, a phryd.

Mae modd i ti gael copi o dy Gynllun Gofal a Chymorth.

Beth yw cyfarfod Adolygu?

Dyma gyfarfod i adolygu dy gynllun gofal a chymorth di er mwyn gwneud yn siŵr bod y cynllun yn diwallu dy anghenion di, ac os nag yw e'n gwneud hynny, i gytuno ar newidiadau a fyddai'n llesol i ti. Mae modd i ti fod yn bresennol yn dy gyfarfod adolygu.

Beth yw gwaith y Swyddog Adolygu Annibynnol?

Prif rôl y Swyddog Adolygu Annibynnol yw sicrhau bod dy gynllun gofal a chymorth yn diwallu dy anghenion. Byddan nhw'n gwneud hyn trwy gyflawni'r camau canlynol:

  1. Siarad â ti cyn dy gyfarfod adolygu
  2. Cadeirio dy gyfarfod adolygu
  3. Rhoi cyfle i ti ddweud dy ddweud yn dy adolygiad
  4. Gwneud yn siŵr bod pobl yn gwneud yr hyn y gofynnwyd iddyn nhw ei wneud

Beth yw'r gwahaniaethau rhwng dy Weithiwr Cymdeithasol a dy Swyddog Adolygu Annibynnol?

Mae dy weithiwr cymdeithasol yn gyfrifol am wneud penderfyniadau gyda ti a phobl bwysig eraill am yr hyn a ddylai fod yn dy gynllun gofal a chymorth.

Bydd dy Swyddog Adolygu Annibynnol yn gwneud yn siŵr mai'r penderfyniadau yna yw'r rhai gorau i ti, yn dilyn dy gynllun gofal a chymorth ac yn parchu dy hawliau. Rydw i wedi cynnwys taflen ar hawliau plant gan y gallai hyn fod yn newydd i ti. Mae modd i mi ddweud rhagor wrthot ti am fy rôl pan fyddwn ni'n cwrdd.

Pa mor aml bydda i'n cael cyfarfod adolygu?

  1. Adolygiad cyntaf – cyn pen 28 diwrnod gwaith (mae hyn tua 4 i 5 wythnos fel arfer)
  2. Ail adolygiad – cyn pen 3 mis o dy adolygiad cyntaf
  3. Adolygiadau eraill – maen nhw'n cael eu cynnal bob 6 mis, ond mae modd iddyn nhw fod yn amlach os oes angen.

Mae modd i ti siarad â dy swyddog adolygu os wyt ti eisiau cyfarfod yn gynharach.

 

Pwy fydd yn fy nghyfarfodydd adolygu?

Mae presenoldeb yn y cyfarfod yn dibynnu ar dy oedran a'th anghenion di. Bydd y bobl ganlynol fel arfer yn bresennol yn y cyfarfod:

  • Ti
  • Un neu ddau o dy rieni di
  • Swyddog Adolygu Annibynnol
  • Dy weithiwr cymdeithasol/Gweithiwr ôl-ofal
  • Dy riant maeth/aelod teulu/dy weithwyr allweddol
  • Rhywun o'r ysgol neu'r coleg
  • Eiriolwr (os hoffet ti eiriolwr)

Os byddi di eisiau i rywun penodol fod yn y cyfarfod, neu’n awyddus i rywun beidio â bod yno, dyweda wrth dy weithiwr cymdeithasol neu dy riant maeth. Weithiau bydd modd i ti a'r Swyddog Adolygu Annibynnol gytuno i rywun aros am ran o'r adolygiad, ond nid am yr adolygiad cyfan.

Dod i fy nghyfarfod adolygu

Mae modd i ti fod yn bresennol yn dy adolygiad a bydd pobl yno sy’n gallu dy gefnogi di, megis dy weithiwr, oedolyn y mae modd iti ymddiried ynddo, neu'r Swyddog Adolygu Annibynnol. Mae modd i'r Swyddog Adolygu Annibynnol siarad â ti cyn, yn ystod, neu ar ôl y cyfarfod. Mae modd i ti benderfynu sut i gymryd rhan, pwy rwyt ti eisiau i fod yno gyda ti a phenderfynu ar y pethau pwysicaf i ti siarad amdanyn nhw yn gyntaf.

Cofia mai dy gyfarfod di yw e! Os oes gyda ti eiriolwr, mae modd iddyn nhw helpu i rannu dy farn, ond bydden ni wrth ein boddau pe byddet ti'n bresennol yn bersonol. Os nad wyt ti eisiau cymryd rhan, mae hynny'n iawn, mae modd i'r Swyddog Adolygu Annibynnol siarad â ti cyn y cyfarfod, os wyt ti'n dymuno. Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb yn y cyfarfod yn deall beth sy'n bwysig i ti, beth sy'n mynd yn dda ac a wyt ti'n teimlo bod angen i unrhyw beth newid. 

Mae dy gyfarfod adolygu di amdanat ti a neb arall. Os na fyddi di yn y cyfarfod, efallai na fydd modd i ti ddylanwadu ar y cynllun cymaint ag y byddet ti wedi'i hoffi.

Does dim hawl gan unrhyw un i dy orfodi di i fynd i dy gyfarfodydd adolygu, a does dim gorfodaeth arnat ti i aros am y cyfarfod cyfan os na fyddi di eisiau. Mae modd gofyn i rywun siarad ar dy ran di p'un a wyt ti yn y cyfarfod ai peidio.

Sut bydda i'n gallu dweud fy nweud am beth sy'n digwydd yn fy mywyd?

Mae sawl ffordd wahanol o fynegi dy deimladau di a sut rwyt ti'n teimlo i bobl eraill. Byddai modd i ti:

  • Ddod i dy gyfarfod adolygu
  • Llenwi'r ffurflen 'Fy Llais, Fy Adolygiad' (naill ai ar-lein neu'r copi papur)
  • Ffonio dy Swyddog Adolygu Annibynnol cyn y cyfarfod
  • Cwrdd â dy Swyddog Adolygu Annibynnol yn breifat cyn yr adolygiad
  • Gwahodd eiriolwr i ddod i'r cyfarfod adolygu i fynegi dy farn.