Skip to main content

Fy iechyd a lles

Mae dy iechyd corfforol a meddyliol yn bwysig. Tra y byddi di'n derbyn gofal, byddwn ni'n sicrhau bod:

Meddyg neu nyrs i blant sy'n derbyn gofal yn rhoi asesiad iechyd i ti pan fyddi di'n dod i mewn i'r system ofal, ac o leiaf unwaith y flwyddyn ar ôl hynny.

Yn dy asesiad, bydd y meddyg neu'r nyrs yn:

  • siarad â ti am dy iechyd a lles cyffredinol
  • gofyn a wyt ti'n poeni am unrhyw beth
  • gwirio dy daldra, dy bwysau, dy lygaid a dy glyw

Ar ôl dy asesiad, bydd y meddyg neu'r nyrs yn anfon adroddiad am dy asesiad a chopi o dy gynllun iechyd at:

  • dy feddyg dy hun
  • dy weithiwr cymdeithasol
  • Nyrsys Plant sy'n Derbyn Gofal