Skip to main content

Eiriolaeth a dy hawliau

Beth yw eiriolaeth?

Mae eiriolaeth yn golygu cael cymorth gan berson arall er mwyn dy helpu di i gael yr wybodaeth sydd ei hangen arnat ti, dy helpu di i siarad am y pethau sy'n bwysig i ti, a dy helpu di i ddeall dy hawliau. Rydyn ni'n galw'r person sy'n dy helpu di yn eiriolwr.

Mae eiriolwyr yn annibynnol. Dydyn nhw ddim yn gweithio i'r gwasanaethau cymdeithasol.

Mae unrhyw beth rwyt ti'n siarad amdano gyda dy eiriolwr yn gyfrinachol oni bai eu bod nhw'n meddwl dy fod di mewn perygl, yn debygol o fod yn berygl i bobl eraill, neu os ydy'r gyfraith yn dweud wrthyn nhw fod yn rhaid iddyn nhw drosglwyddo'r wybodaeth.

Pa fath o bethau y mae modd i eiriolwr helpu gyda nhw?

  • Dy helpu di i ddatrys pethau gyda dy weithwyr/cynhalwyr.
  • Rhoi cefnogaeth i ti ddweud y ddweud mewn cyfarfodydd.
  • Gwrando ar yr hyn rwyt ti eisiau a dy helpu di i rannu hyn.
  • Dy helpu di i wneud cwyn.
  • Gwneud yn siŵr dy fod di'n gwybod beth yw dy hawliau.

Pwy all gael Eiriolwr?

Mae modd i ti gael Eiriolwr os:

  • Wyt ti'n derbyn gofal.
  • Wyt ti angen gofal a chymorth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Llesian (Cymru) 2014.
  • Wyt ti'n gadael y system ofal (Ar gael i unrhyw un hyd at 21 oed neu 25 oed os wyt ti mewn addysg bellach).

Ymwelydd Annibynnol

Beth yw Ymwelydd Annibynnol?

Mae ymwelydd annibynnol yn wirfoddolwr sy'n dy gefnogi di i gymryd rhan mewn gweithgareddau. Maen nhw'n dy helpu di i roi cynnig ar bethau newydd, cael profiadau newydd, ac maen nhw'n fodel rôl ac yn ffrind sy'n oedolyn i ti.

Pwy all gael Ymwelydd Annibynnol?

Os wyt ti'n derbyn gofal neu'n byw oddi cartref ac nad oes gyda ti fawr o gysylltiad gyda dy deulu, mae modd i ti gael ymwelydd annibynnol.

Sut mae cael Eiriolwr neu Ymwelydd Annibynnol?

Bydd gyda dy weithiwr cymdeithasol fanylion ar sut i dy gyfeirio at eiriolwr neu ymwelydd annibynnol.

Os wyt ti am gysylltu â nhw dy hun, mae modd i ti ffonio 0800 4703930 neu e-bostio cwmtafmorgannwg@tgpcymru.org.uk.

I gael rhagor o wybodaeth am eiriolaeth, mynna olwg ar wefan Gwasanaeth Eiriolaeth Cwm Taf Morgannwg « TGP Cymru

I gael rhagor o wybodaeth am ymwelwyr annibynnol, mynna olwg ar wefan Gwasanaeth Ymweld Annibynnol Cwm Taf Morgannwg « TGP Cymru

Dy Hawliau

A thithau'n blentyn neu’n berson ifanc, mae gyda ti hawliau. Mae gyda ti 42 o hawliau o dan gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP).

Mae'r hawliau yma'n golygu bod modd i ti dyfu i fyny yn hapus, yn iach ac yn ddiogel.

I gael rhestr o'r hawliau a beth maen nhw'n ei olygu, mynna olwg ar y poster yma: 9681-CCfW-Know-Your-Rights-Poster-Artwork-Welsh_AW.pdf (childcomwales.org.uk)

Os hoffet ti ddysgu rhagor am dy hawliau, mae modd i ti ymweld â gwefan Comisiynydd Plant Cymru. Gwaith y Comisiynydd yw dweud wrth bobl pam mae dy hawliau di mor bwysig. Mae modd i ti ymweld â'u gwefan yma: Plant a phobl ifainc – Comisiynydd Plant Cymru (childcommwales.org.uk)