Skip to main content

Fy Addysg

Pwy alla i siarad â nhw i gael rhagor o gymorth mewn perthynas â fy addysg?

Dyma restr o rai o'r bobl wahanol gallwch chi siarad â nhw am eich addysg:

  • Eich Rhieni
  • Staff Ysgol - eich Athro/Athrawes, Athro/Athrawes PDG Dynodedig, Pennaeth Blwyddyn
  • Cydlynydd Addysg
  • Eich gweithiwr cymdeithasol
  • Seicolegydd Addysg
  • Eich Rhieni maeth
  • Eiriolwr
  • Eich Swyddog Adolygu Annibynnol

Beth yw Lwfans Cynhaliaeth Addysg?

Os byddwch chi'n penderfynu aros yn yr ysgol neu fynd i'r coleg ar ôl eich pen-blwydd yn 16 oed, gallech chi gael lwfans wythnosol o £30 i'ch helpu chi i astudio. Bydd yr arian yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'ch cyfrif banc bob pythefnos.  Am ragor o wybodaeth am Lwfans Cynhaliaeth Addysg, ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/ab/lca

Beth os ydw i eisiau mynd i'r Brifysgol?

Os byddwch chi'n penderfynu mynd i'r brifysgol, bydd llawer o fathau gwahanol o gymorth ar gael i chi.

CLASS Cymru

Bwriad gwefan CLASS Cymru (Cymorth i'r Rhai sy'n Gadael Gofal a Myfyrwyr Cymru) yw cefnogi pobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal ac sy'n ystyried mynd i'r brifysgol. Mae llawer o awgrymiadau a chyngor defnyddiol ar gael, er mwyn sicrhau bod gyda chi'r holl wybodaeth sydd ei hangen. Mae gwybodaeth am beth i'w wneud cyn mynd i'r brifysgol, cwblhau ceisiadau, pontio i'r brifysgol, astudio a beth i'w wneud ar ôl gorffen yn y brifysgol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan CLASS Cymru:

Hafan - CLASS Cymru

Grantiau a Benthyciadau

Yn gyntaf, dylai fod amrywiaeth o grantiau a benthyciadau ar gael i chi, yn ogystal â chymorth ychwanegol trwy Gyllid Myfyrwyr Cymru, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Am ragor o wybodaeth, bwriwch olwg ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru: http://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/

Ffioedd Myfyrwyr a Chostau Llety

Mae’n bosibl y bydd modd i ni dalu am eich ffïoedd a'ch llety er mwyn lleihau'r pwysau ariannol sy'n gysylltiedig â mynd i'r brifysgol. I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi os ydych chi’n penderfynu aros ym myd addysg, siaradwch â'ch gweithiwr gofal.

Bwrsariaeth

Os byddwch chi'n mynd i'r brifysgol, efallai gallech chi hefyd dderbyn Bwrsari Addysg Uwch.  Dyma swm o arian y mae modd ei wario ar bethau y gallai fod eu hangen arnoch i'ch helpu gyda'ch astudiaethau.

Bydd llawer o brifysgolion sydd â'r ‘marc safon’ hefyd yn cynnig bwrsari ychwanegol i'r rhai sy'n gadael gofal. Gwiriwch a oes gan y brifysgol y ‘Marc Safon’ pan fyddwch chi’n cyflwyno cais trwy ofyn i aelod o staff y brifysgol.