Skip to main content

Cymorth yn ystod Beichiogrwydd

Gwybodaeth a gwasanaethau i'r rhai sy'n feichiog.

MAGU – Mae'r Garfan Magu yn cefnogi pobl sy'n disgwyl babi o 10fed wythnos eu beichiogrwydd hyd nes pen-blwydd cyntaf y plentyn hwnnw. Mae ar gael i famau a thadau sydd wedi bod mewn gofal eu hunain, sydd â phlant eraill sydd ddim yn eu gofal, neu sy'n rhieni ifainc am y tro cyntaf.

Er mwyn i chi gael cymorth bydd rhaid i weithiwr proffesiynol sydd eisoes yn gweithio gyda chi, megis bydwraig, gweithiwr 16+, neu weithiwr cymdeithasol, wneud atgyfeiriad.

Mothers Matter – Mae Mothers Matter yn sefydliad nid er elw sy’n darparu gwasanaethau cymorth Iechyd Meddwl Cyn ac Ôl-enedigol i fenywod, dynion, a’u teuluoedd. Mae ganddyn nhw Hybiau Lles yn Nhonypandy, Pontypridd, a Phont-y-clun. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Wellbeing Hub for Perinatal Women - Mothers Matter (mothersmattercic.co.uk)

Cynllun Cychwyn Iach - Os ydych chi'n fwy na 10 wythnos yn feichiog neu â phlentyn sy'n iau na 4 oed, mae'n bosibl eich bod chi'n gymwys i dderbyn cymorth i dalu am fwyd iach a llaeth. Mae angen i chi fod yn hawlio budd-daliadau penodol i wneud cais. I gael gwybodaeth am y cynllun a manylion ar sut i wneud cais, ewch i Cymorth i brynu bwyd a llaeth (Cychwyn Iach) (Saesneg).

Gwybodaeth Beichiogrwydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Morgannwg (CTM) - Mae gan Fwrdd Iechyd CTM ystod eang o wybodaeth ar bynciau fel bondio â'ch babi, bwydo, gofal cyn-geni ac ymarfer corff, iechyd meddwl a mwy. Am ragor o wybodaeth ewch i: Beichiogrwydd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (gig.cymru).

Cwsg Mwy Diogel – Mae'r Lullaby Trust yn elusen sy'n darparu gwybodaeth am gysgu mwy diogel i rieni babanod. Mae gan eu gwefan wybodaeth am gyd-gysgu, syndrom marwolaeth sydyn babanod (SIDS), diogelwch yn y crud, a llawer mwy. I gael rhagor o wybodaeth ac i gael mynediad at eu hadnoddau, ewch i https://www.lullabytrust.org.uk/.