Skip to main content

Niwroamrywiaeth

Gwybodaeth ac adnoddau ynghylch Niwroamrywiaeth a’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael.

Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth – Ein Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth yw ein cymorth ymyrraeth gynnar i deuluoedd. Mae gyda ni garfan ymroddedig o fewn y gwasanaeth yma i Blant ag Anghenion Ychwanegol (CANS) sy'n gallu darparu cymorth arbenigol. 

Gwasanaeth Niwroddatblygiadol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – Mae’r gwasanaeth Niwroddatblygiadol yn gweld plant a phobl ifainc 2-17 oed ac yn darparu asesiadau diagnostig ar gyfer Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADGC) ac Awtistiaeth (ASA). Ewch i: Gwasanaethau Niwroddatblygiadol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (nhs.wales) am fanylion cyswllt a rhagor o wybodaeth.

Behaviour Support Hub – Mae'r Hwb yn elusen a arweinir gan rieni sy'n darparu ymyrraeth gynnar a chymorth hirdymor i gynhalwyr sy'n rhieni. Mae'n cynnig gweithdai a sesiynau hyfforddi, yn ogystal â chymorth gan gymheiriaid a sesiynau 1-i-1. Dyma ragor o wybodaeth: Behaviour Support Hub – Cymorth i Gynhalwyr sy'n Rhieni ac Ysgolion.

ASD Rainbows – Mae ASD Rainbows yn elusen sy'n cynnig cymorth i deuluoedd sydd wedi'u heffeithio gan Anhwylder y Sbectrwm Awtistig a chyflyrau cysylltiedig eraill. Maen nhw'n cynnig meithrinfa cyn ysgol, gweithgareddau clwb ar ôl ysgol, a chymorth i wneud bywyd gartref yn haws ei reoli. Dyma ragor o wybodaeth: Services for children with Autism - ABA Therapy Wales- Rhondda Cynon Taf and Merthyr Tudful (asdrainbows.co.uk)

Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth – cangen Rhondda Cynon Taf - Mae cangen Rhondda Cynon Taf o'r Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yn cynnig cymorth a gwybodaeth i bobl awtistig a'u teuluoedd. Mae'n cynnal amrywiaeth o gyfarfodydd a gweithgareddau ledled RhCT. Dyma ragor o wybodaeth a manylion cyswllt: Rhondda Cynon Taf (autism.org.uk).

Awtistiaeth Cymru – Mae Awtistiaeth Cymru yn cael ei redeg gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae'r wefan yn darparu adnoddau a gwybodaeth sydd wedi'u hanelu at ddarparu gwybodaeth ac offer ymarferol i rieni a chynhalwyr pobl awtistig. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Rhieni a gofalwyr - Awtistiaeth Cymru | Awtistiaeth Cymru | Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol.

AP Cymru – Nod AP Cymru yw creu byd niwro-gynhwysol i blant, pobl ifainc, a'u teuluoedd drwy gynnig arweiniad a gwybodaeth am niwroamrywiaeth. Mae hefyd yn cynnig sesiynau lles a sesiynau cymorth 1-i-1 i rieni, a fforwm rhieni preifat. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Rhieni a gofalwyr - Awtistiaeth Cymru | Awtistiaeth Cymru | Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol.