Skip to main content

Cymorth Iechyd Meddwl

I gael cymorth iechyd meddwl brys, ffoniwch 111 a phwyso OPSIWN 2.

Mae’r rhif yma'n rhad ac am ddim i’w ffonio, ac mae’r gwasanaethau’n cael eu cynnal ar gyfer pobl o bob oed bob awr o'r dydd, bob dydd. Byddwch chi'n siarad â gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol yn eich ardal. 

I Blant a Phobl Ifainc

Gwasanaethau ac Apiau i Blant a Phobl Ifainc - Iechyd Meddwl a Lles - Plant a Phobl Ifainc | Diogelu, Cwm Taf Morgannwg (cwmtaforgannwgsafeguardingboard.co.uk).

Cwnsela Eye to Eye - Mae Gwasanaeth Cwnsela Eye to Eye ar gyfer plant a phobl ifainc ledled RhCT. Mae'n cynnig cefnogaeth gyfrinachol am ddim i unrhyw un rhwng 10 a 30 oed. Hafan | Eyetoeyerct.

Mind Hub – Crëwyd gan bobl ifainc ar gyfer pobl ifainc. Mae'r wefan yma'n darparu gwybodaeth a dolenni i wasanaethau perthnasol mewn perthynas â'ch iechyd meddwl a'ch lles. Mae ganddyn nhw gysylltiadau â gwasanaethau ar gyfer iselder, bwlio, gorbryder, delwedd corff, a rhagor Mind Hub.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) – Mae CAMHS yn garfan o weithwyr proffesiynol sy'n cynnig cymorth mewn perthynas ag iechyd meddwl a lles plant a phobl ifainc. Maen nhw’n cynnig mathau gwahanol o therapïau (gan gynnwys therapi grŵp, therapi teulu, a therapi ymddygiad gwybyddol). Efallai byddwch chi'n cael eich atgyfeirio at y gwasanaeth gan weithiwr proffesiynol fel eich Meddyg Teulu, Gweithiwr Cymdeithasol, a rhagor. I gael rhagor o wybodaeth a manylion cyswllt, ewch i: Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (gig.cymru)

I Oedolion

Cymorth Iechyd Meddwl i Oedolion Iechyd Meddwl - Oedolion - Cefnogaeth a Chyngor | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM)- Mae BIP CTM yn cynnig ystod o Wasanaethau Iechyd Meddwl i oedolion sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf. Ewch i’w wefan i ddod o hyd i’r mathau gwahanol o gymorth sydd ar gael, yn ogystal ag adnoddau hunangymorth a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol: Iechyd Meddwl - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (gig.cymru)

Mind Cwm Taf Morgannwg - Mental Health Support Hub – Self Referral - Cwm Taf Morgannwg Mind (ctmmind.org.uk).

New Horizons – Mae New Horizons yn elusen iechyd meddwl a lles emosiynol yn RhCT, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae'n cynnig cyrsiau adferiad am ddim, cyfeillio, a chyfeirio. New Horizons – Gwella Lles Meddyliol Yn Lleol (newhorizons-mentalhealth.org.uk)

Cefnogi lles eich plentyn – Mae BBC Bitesize yn cynnig amrywiaeth o adnoddau ar reoli a gwella lles eich plentyn. Mae'n ymdrin â phethau fel pryder ysgol, LHDTC+, emosiynau, dyslecsia, a rhagor. Family wellbeing - BBC Parents' Toolkit - BBC Bitesize.

Camau'r Cymoedd – Mae Camau'r Cymoedd yn elusen lles a sefydlwyd i helpu pobl i helpu eu hunain. Mae'n cynnig gweithdai ar-lein rhad ac am ddim sy'n ymdrin â phynciau fel rheoli straen, panig a phryder, cwsg, ymwybyddiaeth ofalgar, a rhagor. Mae rhagor o wybodaeth a manylion i gofrestru ar gyfer y gweithdai ar gael yma: Camau'r Cymoedd | Cyrsiau Ymwybyddiaeth Ofalgar a Rheoli Straen am ddim (Saesneg).