Skip to main content

Gwybodaeth Gyfreithiol

Dolenni i wasanaethau a gwybodaeth am faterion cyfreithiol

Cyfreithwyr Cyfraith Teulu – Mae Cyfreithwyr Cyfraith Teulu yn gallu rhoi cymorth i chi gydag amrywiaeth o faterion gan gynnwys tor-perthynas, trefniadau ynghylch plant yn dilyn ysgariad, anghydfodau cyswllt, a mwy.

Mae gan Gymdeithas y Cyfreithwyr beiriant chwilio i helpu dod o hyd i gyfreithiwr: Find a Solicitor - The Law Society

Cafcass – Mae Cafcass yn darparu cyngor a chymorth arbenigol sy’n canolbwyntio ar y plentyn, yn diogelu plant ac yn sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed mewn llysoedd teulu ledled Cymru fel bod penderfyniadau’n cael eu gwneud er eu lles gorau. Dydyn nhw ddim yn darparu cyngor cyfreithiol ond mae ganddyn nhw ddolenni i wasanaethau sy'n cynnig cyngor o'r fath: https://www.cafcass.gov.uk/parent-carer-or-family-member/information-and-resources-parents/ ble-cael-cyngor-cyfreithiol

Cymorth gyda threfniadau plant – Canllaw ar wneud neu newid trefniadau plant (a elwir hefyd yn drefniadau cyswllt, mynediad neu warchodaeth) gyda'r rhiant arall.  Get help with child arrangements (justice.gov.uk)

Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru – Gwasanaeth dwyieithog sy’n darparu gwybodaeth a mynediad at gyngor cyfreithiol i blant a phobl ifainc. Cartref | Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru .

Hawliau Plant a Phobl Ifainc – Gwybodaeth am eich hawliau a chithau'n blant a phobl ifainc Hawliau plant: Gwybodaeth i blant | LLYW.CYMRU

Cymorth Cyfreithiol – Mae cymorth cyfreithiol yn gallu helpu i dalu costau cyngor cyfreithiol, cyfryngu teuluol a chynrychiolaeth mewn llys neu dribiwnlys. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Legal aid: Overview - GOV.UK (www.gov.uk)

Gingerbread – Mae Gingerbread yn sefydliad sy'n ymladd dros hawliau rhieni sengl a'u plant. Maen nhw'n cynnig cyngor a gwybodaeth i wneud yn siŵr bod gan rieni sengl yr offer i gefnogi eu plant a'u hunain. Dyma ragor o wybodaeth: https://www.gingerbread.org.uk/