Skip to main content

Cyngor ar Faterion iechyd

Gweld yr ystod o gymorth iechyd sydd ar gael i chi a'ch teulu yn RhCT.

Ymwelwyr Iechyd – Mae carfanau o Ymwelwyr Iechyd yn rhoi gwybodaeth, cyngor, cymorth ac ymyriadau i deuluoedd a phlant, 0 i 5 oed,  ledled ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Ffoniwch 01685 351268. Mae modd i chi hefyd ymuno â grŵp Facebook Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd Cwm Taf Morgannwg i gael gwybodaeth am Ymwelwyr Iechyd yn yr ardal leol.  https://www.facebook.com/cwmtafmorgannwghv/

Cymorth iechyd i blant, pobl ifainc, a theuluoedd – I gael gwybodaeth am y cymorth y mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn ei gynnig, ewch i https://bipctm.gig.cymru/cyngor-i-gleifion/cymorth-i-rieni-teuluoedd-a-gofalwyr/

Cynllun Cychwyn Iach - Os ydych chi'n fwy na 10 wythnos yn feichiog neu â phlentyn sy'n iau na 4 oed, mae'n bosibl eich bod chi'n gymwys i dderbyn cymorth i dalu am fwyd iach a llaeth. Mae angen i chi fod yn hawlio budd-daliadau penodol i wneud cais. I gael gwybodaeth am y cynllun a manylion ar sut i wneud cais, ewch i wefan  Cymorth i brynu bwyd a llaeth (Cychwyn Iach).

Y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Cymunedol - I gysylltu â'r gwasanaeth Therapi Galwedigaethol i Blant, ffoniwch 01443 425006.

Cwsg Mwy Diogel – Mae'r Lullaby Trust yn elusen sy'n darparu gwybodaeth am gysgu mwy diogel i fabanod. Mae gan eu gwefan wybodaeth am gyd-gysgu, Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod (SIDS), diogelwch yn y crud, a llawer mwy. I gael rhagor o wybodaeth ac i gael mynediad at eu hadnoddau, ewch i https://www.lullabytrust.org.uk/.