Skip to main content

Cymorth Ariannol i Deuluoedd

Mae magu plant yn gallu bod yn gostus, ond mae cymorth ariannol ar gael i deuluoedd.

Cynlluniau Cymorth Cyngor RhCT - I gael gwybodaeth am fudd-daliadau, prydau ysgol am ddim, gofal plant a rhagor, ewch i: Cymorth Ariannol i Deuluoedd | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk).

Cyngor ar Bopeth RhCT – Mae'r Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor annibynnol, cyfrinachol a diduedd am ddim. Mae eu gwefan yn cynnig cyfrifiannell budd-daliadau a chyngor ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys arian a dyled, tai, a budd-daliadau. Am ragor o wybodaeth a manylion cyswllt, ewch i Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf - Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf (carct.org.uk).

Step Change – Mae Step Change yn elusen ddyled sy’n gallu cynnig cyngor am ddim ar ddyledion a’ch helpu i greu cynllun i ddelio â’ch dyledion. Maen nhw'n cynnig gwybodaeth a chyngor ar amrywiaeth o bynciau ariannol ac mae modd i chi gael cymorth ar-lein neu dros y ffôn. Am ragor o wybodaeth, ewch i: StepChange Debt Charity. Free Expert Debt Help & Advice

Ara (Cymorth gyda chaethiwed i hapchwarae) – Mae Ara yn cynnig cymorth cyfrinachol am ddim ledled Cymru. Mae modd cysylltu â nhw ar-lein neu ar y ffôn ac maen nhw'n cynnig adnoddau am ddim ar eu gwefan. Ewch i Croeso i Ara - Asiantaeth i bobl sydd â phroblemau gamblo, cyffuriau a.y.y.b. (recovery4all.co.uk) am ragor o wybodaeth.