Skip to main content

Adnoddau Cymunedol

Mae amrywiaeth o wasanaethau a chymorth yn y gymuned a all eich cynorthwyo chi a'ch teulu. Mae hyn yn cynnwys Banciau Bwyd, Canolfannau Cydnerthedd y Gymuned, Interlink a mwy.

Interlink – Mae Interlink yn elusen a arweinir gan aelodau sy'n darparu cyngor cymunedol, cyfleoedd i wirfoddoli, cymorth lles a mwy. Hafan - Interlink RCT

Infoengine – Mae Infoengine yn gyfeiriadur o wasanaethau trydydd sector ledled Cymru. Mae modd i chi chwilio am ystod eang o wasanaethau sy'n agos atoch chi: infoengine: Chwilio am wasanaethau yn eich cymuned

Cysylltu Rhondda Cynon Taf – Mae Cysylltu Rhondda Cynon Taf yn blatfform i ddod o hyd i wybodaeth am wirfoddoli, achlysuron cymunedol, gweithgareddau, cyfleusterau a gwasanaethau ledled RhCT. I gael gwybod rhagor, ewch i Ynglŷn â’r llwyfan cymunedol hwn - Cysylltu Rhondda Cynon Taf

Cymorth i Digolion – Mae'r Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid allweddol er mwyn darparu cymorth i drigolion. Mae modd i chi ofyn am gymorth ar unrhyw bryd os dydych chi ddim yn derbyn cefnogaeth gan eich teulu, ffrindiau neu'ch cymuned. Mae modd i chi ofyn am gymorth drwy lenwi'r ffurflen ar-lein yma: Cymorth i Drigolion | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk) 

Canolfannau Cydnerthedd y Gymuned – Mae ein Canolfannau Cydnerthedd y Gymuned yn dod ag ystod o wasanaethau ynghyd sy’n galluogi pobl i gael mynediad at y cymorth a’r cyngor sydd eu hangen arnyn nhw'n gyflymach ac yn fwy cyfleus nag erioed o’r blaen. I gael lleoliad yr hybiau a gwybodaeth amdanyn nhw, ewch i: Canolfannau Cydnerthedd y Gymuned | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)

Cyngor ar Bopeth – Mae'r Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yn cynnig amrywiaeth o wybodaeth a chyngor am feysydd gan gynnwys budd-daliadau, gwaith, arian a dyled, tai, a rhagor. Maen nhw hefyd yn cynnig gwasanaethau allgymorth ledled RhCT. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf - Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf (carct.org.uk)

Toiledau Cyhoeddus – Am fanylion ar leoliadau toiledau cyhoeddus a gwybodaeth am ein strategaeth toiledau cyhoeddus ewch i: Toiledau cyhoeddus | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)

Banciau Bwyd – I gael gwybodaeth am asiantaethau lleol sy'n gallu eich hatgyfeirio i gael talebau Banc Bwyd, ewch i Foodbank vouchers | Rhondda Foodbank

Mannau Cynnes – Os oes angen mynediad i ofod cynnes arnoch y gaeaf hwn, ewch i Spaces — Warm Spaces

Canolfannau Croeso yn y Gaeaf – Lleoliadau yn RhCT i gadw trigolion yn gynnes ac yn ddiogel dros y gaeaf. Bydd gennych chi fynediad i le cynnes, diod boeth a byrbryd am ddim, croeso cynnes, a lle i gymdeithasu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Canolfannau Croeso’r Gaeaf | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)