Skip to main content

Gwasanaethau i Blant ag Anghenion Ychwanegol (CANS)

Gwasanaethau a chymorth i Blant ag Anghenion Ychwanegol

Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth - Mae ein Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth yn gweithio gyda theuluoedd ledled RhCT lle mae anghenion nam niwroddatblygiadol, gwybyddol neu gorfforol eu plentyn/plant islaw'r trothwy statudol ar gyfer ymyrraeth. Maen nhw'n gweithio gyda’r teulu i ddeall a rheoli anghenion eu plentyn a/neu fynd i’r afael â’r effaith ar y teulu ehangach.

Mae modd i deuluoedd hunan- atgyfeirio drwy ffonio'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth (01443 425006) 

Role Play Lane – Mae Role Play Lane yn ganolfan chwarae rôl nid-er-elw yn Llanilltud Faerdref ac yn cynnig sesiynau chwarae rôl, sesiynau llesiant i'r teulu, sesiynau ADY, a rhagor! Nod y cwmni yw cadw'i gostau'n isel ac yn fforddiadwy a chynnig sesiynau cyffredinol a rhai wedi'u hariannu. Am ragor o wybodaeth ewch i'w wefan https://www.roleplaylane.uk/

Contact (ar gyfer teuluoedd â phlant anabl) – Mae Contact yn darparu gwybodaeth a chyngor i deuluoedd, gweithdai, ac mae'n gwneud gwaith ymgyrchu. Mae ganddyn nhw linell gymorth cyngor a gwybodaeth rhad ac am ddim a gwasanaeth cymorth Clust i Wrando dros y ffôn. Am ragor o wybodaeth a manylion cyswllt, ewch i: Contact: the charity for families with disabled children.

Follow Your Dreams - Mae Follow Your Dreams yn elusen genedlaethol sy'n ysbrydoli plant a phobl ifainc yng Nghymru a Lloegr gydag anableddau dysgu i wireddu eu breuddwydion. Mae'n cynnig sesiynau zoom ar-lein, sesiynau celf a chrefft a rhagor. I gael diweddariadau rheolaidd, dilynwch eu tudalen Facebook: Follow Your Dreams Charity | Pont-y-clun | Facebook neu ewch i'w gwefan am ragor o wybodaeth: Hafan | Mae Follow Your Dreams yn helpu plant a phobl ifainc ag anableddau dysgu ac anghenion arbennig.

Afasic – Mae Afasic yn rhoi cymorth a gwybodaeth i deuluoedd â phlant ac oedolion ifainc sydd ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu. Mae'n canolbwyntio ar anhwylder datblygu iaith. Am ragor o wybodaeth ewch i: Hafan - Afasic.

Infoengine – I ddod o hyd i ragor o wasanaethau gwirfoddol a chymunedol yn agos atoch chi, ewch i infoengine: Chwilio am wasanaethau yn eich cymuned.