Beth yw'r Cynnig Gofal Plant i Gymru?
Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu cyfuniad o hyd at 30 awr yr wythnos o addysg feithrin a gofal plant ychwanegol wedi'i ariannu i rieni cymwys. Bydd y ddarpariaeth yma ar gael i blant 3 a 4 oed am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Bydd y Cynnig yn adeiladu ar hawl bresennol sydd gan blant at addysg feithrin yn ystod y tymor, ac yn darparu hyd at 30 awr o ofal plant wedi’i ariannu am naw wythnos o’r gwyliau ysgol (mae wythnosau gwyliau ysgol ar sail pro-rata, 3 wythnos y tymor, yn dibynnu ar ba dymor caiff cymhwysedd y rhieni ei gadarnhau).
Yn Rhondda Cynon Taf, rydyn ni'n cynnig 15 awr o ddarpariaeth addysg feithrin, felly bydd plant cymwys yn gallu derbyn 15 awr ychwanegol o ofal plant wedi'i ariannu bob wythnos yn ystod tymor yr ysgol. Mae rhai ysgolion yn Rhondda Cynon Taf yn cynnig addysg feithrin llawn amser ar gyfer plant oed meithrin. Yn yr achos yma, bydd modd i blant cymwys dderbyn hyd at 30 awr o ofal plant wedi'i ariannu am 9 wythnos o wyliau'r ysgol, ond yn ystod y tymor bydd eu hawl i'r Cynnig Gofal Plant yn dod o'u darpariaeth feithrin.
Nodwch – mae nifer yr oriau o addysg feithrin sy'n cael ei chynnig yn amrywio ledled Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Os oes plant o Awdurdodau Lleol gwahanol yn defnyddio'r Cynnig yn eich lleoliad, bydd angen i chi wybod sawl awr ychwanegol o ofal plant wedi'i ariannu y mae gan bob plentyn hawl iddo. Ni ddylai cyfanswm yr addysg feithrin a'r gofal plant wedi'i ariannu ychwanegol fod yn fwy na 30 awr yr wythnos.
Beth mae'n ei olygu i fi fel darparwr?
Ar yr amod eich bod wedi cofrestru gydag AGC, mae modd i chi gael cyllid i blant cymwys sy'n manteisio ar y Cynnig yn eich lleoliad. Os ydych chi’n dymuno cymryd rhan a derbyn cyllid ar gyfer plant sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf, rhaid i chi gofrestru ar system ar-lein genedlaethol Llywodraeth Cymru (gweler isod).
Oes modd i mi dderbyn plant o wahanol Awdurdodau Lleol?
Oes, cyn belled â bod y rhieni'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd, mae hawl gyda nhw ddefnyddio lleoliadau sydd wedi'u cofrestru gydag AGC mewn unrhyw Awdurdod Lleol. Y rhieni sy'n dewis eu darparwr.
Oes rhaid i mi ddarparu addysg feithrin er mwyn manteisio ar elfen gofal plant y Cynnig?
Nac oes. Bydd modd i rai plant gael mynediad at addysg feithrin mewn lleoliadau eraill. Does dim angen i ddarparwyr gofal plant ddarparu elfennau addysg feithrin a gofal plant y Cynnig fel ei gilydd.
Oes angen i mi allu darparu'r Cynnig am 48 wythnos y flwyddyn i gymryd rhan?
Nac oes. Mae modd i rieni ddefnyddio mwy nag un darparwr gofal sy'n bodloni'u gofynion orau. Mae modd i ddarparwyr sy'n darparu gofal plant yn ystod y tymor yn unig, neu yn ystod y gwyliau yn unig, gymryd rhan yn y Cynnig gan ddibynnu ar anghenion y rhieni.
Faint byddaf i'n cael fy nhalu?
Bydd pob darparwr yn cael ei dalu £5.00 yr awr am bob plentyn sy'n derbyn elfen gofal plant y Cynnig.
Ydw i'n cael codi tâl ychwanegol ar rieni?
Nac ydych. Does dim modd i chi godi tâl ychwanegol ar rieni os ydych chi'n codi pris sy'n fwy na £5.00 yr awr.
Ydw i'n cael codi tâl ychwanegol am fwyd a gweithgareddau ychwanegol?
Ydych. Os oes angen, mae modd i chi godi tâl ychwanegol am bethau megis bwyd, trafnidiaeth (e.e. gollwng a chodi o'r ysgol) a gweithgareddau oddi ar y safle y mae'n rhaid talu amdanyn nhw.
Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, ddylech chi ddim codi tâl ychwanegol sy'n fwy na £9.00 y dydd ar rieni am sesiwn diwrnod llawn (tua 10 awr). Byddai hyn yn cynnwys tri phryd o fwyd am £2.50 yr un a 2 byrbryd am 75c yr un. Am sesiynau hanner dydd (tua 5.5 awr) ddylech chi ddim codi tâl ychwanegol sy'n fwy na £5.75 (dau bryd o fwyd am £2.50 yr un a byrbryd am 75c). Am ofal fesul sesiwn sydd ddim yn cynnwys pryd o fwyd, ond mae plentyn yn derbyn byrbryd, mae'r canllawiau yn nodi na ddylech chi godi tâl ar rieni sy'n fwy na 75c am fyrbryd.
Sut byddaf i'n cael fy nhalu?
Caiff ceisiadau am gyllid eu cyflwyno drwy'r system ar-lein genedlaethol.
Sut ydw i'n cymryd rhan?
Cofrestrwch i gyflwyno'r Cynnig ar-lein Cofrestrwch eich lleoliad gofal plant i gael y Cynnig Gofal Plant i Gymru | LLYW.CYMRU .