Skip to main content

Cyngor a'r Camau Nesaf

Os ydych chi'n teimlo bod angen rhagor o gymorth arnoch chi neu os ydych chi eisiau siarad am fater gydag aelod o'n carfan, ffoniwch 01443 425006 a gofyn am gael siarad â rhywun o'r garfan Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.

Beth fydd yn digwydd os bydda i'n ffonio? 

Os byddwch chi'n ein ffonio, byddwch chi'n siarad ag aelod o'n carfan ac yn cael y cyfle i drafod eich mater neu bryder. Byddwn ni'n gwrando arnoch chi ac yn eich helpu i ddod o hyd i'r ffordd orau i fod o gymorth i chi. Gallai hyn gynnwys eich cyfeirio at wybodaeth leol neu at wasanaeth mwy perthnasol rydyn ni'n teimlo y gallai fod o gymorth.

Os oes gennych chi gyfrifoldeb rhiant am blentyn ac rydych chi'n ffonio ein carfan, byddwn ni'n cael sgwrs 'Beth sy'n Bwysig' gyda chi. Os does dim cyfrifoldeb rhiant gyda chi, ond rydych chi'n teimlo y byddai sgwrs bellach yn ddefnyddiol, bydd y rheolwyr yn penderfynu arni ac efallai y bydd sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’ yn cael ei chynnal yn ddiweddarach.

Beth yw sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’?

Sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’ yw pan fydd aelod o’n garfan yn siarad â rhieni sydd â chyfrifoldeb rhiant ac yn cynnal sgwrs i ddarganfod pam eu bod nhw wedi ffonio. Byddwn ni'n cysylltu ag aelodau perthnasol o’r teulu i helpu i greu darlun ehangach o’r teulu a, gyda’ch caniatâd chi, byddwn ni hefyd yn siarad ag unrhyw weithwyr proffesiynol perthnasol, megis yr heddlu, gweithwyr iechyd, ac athrawon, i’n helpu i weithio allan y ffordd orau o gynnig cymorth i chi. Byddwn ni'n penderfynu a oes rôl bellach i’r gwasanaethau cymdeithasol neu a oes modd rhoi cymorth i chi trwy wasanaethau eraill sydd ar gael.

Beth fydd yn digwydd os does gen i ddim cyfrifoldeb rhiant?

Os does gyda chi ddim cyfrifoldeb rhiant ond rydych chi'n dal i fod yn rhan weithredol o fywyd y plentyn/plant ac mae pryderon gyda chi, byddwn ni'n cymryd eich manylion a bydd uwch aelod o'n carfan yn penderfynu a oes angen sgwrs 'Beth sy'n Bwysig'. Os oes angen sgwrs, bydd hwn yn cael ei gynnal a byddwn ni'n penderfynu a oes angen rhagor o gymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol arnoch chi.

Beth sy’n digwydd ar ôl y sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’?

Ar ôl i ni gael sgwrs gyda chi a nodi'r mater, yn ogystal â'r pethau sy'n bwysig i chi, byddwn ni'n gweithio gyda chi i gynllunio'ch camau nesaf. Mae sawl math o gymorth ar gael gan Gwasanaethau i Blant, ac yn y gymuned, a byddwn ni'n gweithio gyda chi i ddarganfod pa wasanaeth fyddai’n diwallu eich anghenion orau. Os oes angen, rydyn ni'n gallu gweithio gyda chi i helpu i gael mynediad at y gwasanaeth cywir ar eich cyfer chi.

Gallai hyn olygu eich atgyfeirio chi i gael asesiad pellach (lle bydd sgwrs fanylach yn cael ei chynnal a bydd modd cynnig cymorth pellach), eich cyfeirio at ein gwasanaeth ymyrraeth gynnar Teuluoedd Cydnerth, neu eich cyfeirio at gymorth lleol yn y gymuned.

Os ydych chi'n codi pryderon am ddiogelwch plentyn, neu rydyn ni'n datblygu pryderon yn ystod ein sgwrs, byddwn ni'n cyfeirio’r plentyn/plant at ein Hwb Diogelu Amlasiantaeth (MASH). Mae hwn yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, cynrychiolwyr yr heddlu, gweithwyr iechyd, athrawon, a gwasanaethau proffesiynol perthnasol eraill, a fydd yn gweithio i nodi unrhyw bryderon a rhoi mesurau diogelu ar waith i amddiffyn y plentyn/plant. Os ydych chi'n poeni am ddiogelwch plentyn edrychwch ar ein cyngor diogelu.