Skip to main content

Beth yw asesiad?

Bydd asesiad yn cael ei gynnal gan Weithiwr Cymdeithasol  i Blant neu Reolwr Materion Asesu Gofal.

Byddwn ni'n casglu gwybodaeth am yr hyn sydd ei angen ar eich plentyn, gan ddechrau gyda'r hyn sydd bwysicaf i'ch plentyn. Byddwn ni (gyda'ch caniatâd) yn siarad ag ystod o bobl sy'n ymwneud â bywyd eich plentyn i gasglu eu barn er mwyn ystyried y ffordd orau y mae modd i ni eich cefnogi chi i gyd. Os caiff ei asesu bod gyda'ch plentyn anghenion cymwys (addas), byddwn ni'n gweithio gyda chi i ddatblygu Cynllun Gofal a Chymorth.