Skip to main content

Deilliant Asesiad

  • Os nad yw eich plentyn chi'n gymwys (addas) ond mae anghenion gofal a chymorth wedi'u nodi, mae modd trosglwyddo'r plentyn i garfan leol neu’r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth.
  • Os yw asesiad yn nodi bod anghenion gofal a chymorth gyda'ch plentyn, mae'n bosibl y byddwn ni'n nodi bod modd darparu cymorth drwy rwydwaith eich teulu, neu drwy eich arwain chi at wasanaethau yn y gymuned.
  • Neu mae modd i ni gynnig ymyrraeth byr dymor drwy'r Garfan Alluogi. Mae'r Garfan Alluogi yn darparu cymorth i blant hyd at 18 oed drwy weithio gyda rhieni a gwarcheidwaid i ddatblygu dealltwriaeth, gwybodaeth a strategaethau i gefnogi'r plentyn i oresgyn yr heriau mae'n eu hwynebu.

Mae rhieni, brodyr, chwiorydd a gwarcheidwaid yn gymwys (addas) i dderbyn asesiad cynhaliwr. Mae modd cyfuno'r asesiad yma ac asesiad eich plentyn, neu ei gynnal yn asesiad unigol.