Skip to main content

Beth yw'r Gofrestr Amddiffyn Plant?

Rhestr gyfrinachol o blant yn yr Awdurdod Lleol sydd mewn perygl o niwed yw’r Gofrestr Amddiffyn Plant. Mae modd i weithwyr proffesiynol penodol ofyn am wybodaeth sy’n nodi p’un a yw enw plentyn ar y gofrestr ai peidio. 

Mae'r gofrestr hefyd rhoi cyfrifoldeb ar weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant i rannu gwybodaeth gyda Gweithiwr Cymdeithasol y plentyn os yw'r plentyn yn profi unrhyw ddigwyddiadau mawr neu os oes newidiadau i’w amgylchiadau.

Beth yw Cynllun Amddiffyn Plant?

Caiff Cynllun Amddiffyn Plant ei lunio gennych chi, a chithau'n rhiant/gwarcheidwad, y Gweithiwr Cymdeithasol a'r rhwydwaith o bobl sy'n ymwneud â bywyd eich plentyn/plant. Mae'r cynllun yn nodi'r camau gweithredu sydd eu hangen er mwyn cadw eich plentyn/plant yn ddiogel a lleihau'r peryglon iddyn nhw. Bydd y cynllun yn cael ei adolygu a'i addasu bob mis gan y grŵp craidd.

Beth yw grŵp craidd?

Tra bod enw eich plentyn/plant (neu'r plentyn/plant rydych chi'n gofalu amdanyn nhw) ar y Gofrestr Amddiffyn Plant, bydd cyfarfodydd misol yn cael eu cynnal gyda chi a gweithwyr proffesiynol allweddol er mwyn sicrhau bod cynnydd da yn cael ei wneud mewn perthynas â’r cynllun ac i drafod unrhyw wybodaeth/problemau.