Skip to main content

Beth yw Cynhadledd Amddiffyn Plant Gychwynnol (ICPC)?

Bydd Cynhadledd Amddiffyn Plant Gychwynnol yn cael ei chynnal cyn pen 15 diwrnod. Dyma gyfle i glywed barn y rhai sy'n ymwneud â bywyd eich plentyn/plant neu'r plant rydych chi'n gofalu amdanyn nhw. Mae'n debygol o gynnwys gweithwyr proffesiynol megis athrawon, meddygon, yr heddlu a'r gweithiwr cymdeithasol a rheolwr penodedig. Mae modd i rieni/gwarcheidwaid ddod â rhywun gyda nhw er cefnogaeth - gallai hyn fod yn aelod o'r teulu neu eiriolwr proffesiynol sy'n gweithio i sefydliad annibynnol. - Eiriolaeth i Rieni (Cymorth i leisio'ch barn)

Yn y cyfarfod, bydd cyfle i bawb fynegi eu barn a chael eu holi am gryfderau, peryglon ac anghenion plentyn/plant a'u rhieni/gwarcheidwaid. Bydd y gynhadledd yn cael ei harwain gan Gadeirydd Cynhadledd Annibynnol a fydd yn sicrhau bod pawb yn cael cyfle i leisio'u barn, ac yn sicrhau bod y gynhadledd yn canolbwyntio ar y plentyn/plant.

Ar ddiwedd y gynhadledd bydd gofyn i bawb sy'n bresennol benderfynu a ddylai enw'r plentyn gael ei ychwanegu at y Gofrestr Amddiffyn Plant. Os caiff enw'r plentyn ei ychwanegu ar y gofrestr, bydd Cynllun Amddiffyn Plentyn yn cael ei lunio yn ystod y cyfarfod. Mae'r hyn rydych chi o'r farn sy'n bwysig i gadw eich plentyn/plant a theulu yn ddiogel yn bwysig a dylid ei gynnwys yn y cynllun. Os oes unrhyw gymorth rydych chi o'r farn y byddai'n fuddiol er mwyn gwneud newidiadau, lleisiwch hynny yn ystod y cyfarfod. Os oes unrhyw ran o'r cynllun nad ydych chi'n ei ddeall neu rydych chi'n credu nad yw'n realistig, lleisiwch hynny yn ystod y cyfarfod. Rydyn ni'n cydnabod bod modd i'r cyfarfodydd yma deimlo'n frawychus - dyma pam bod modd derbyn cefnogaeth gan eiriolwr