Skip to main content

Beth yw cyfrifoldebau diogelu Gwasanaethau i Blant?

Mae pawb yn gyfrifol am sicrhau diogelwch plant (Gweithdrefnau Diogelu Cymru). Mae rôl benodol gyda'r Gwasanaethau i Blant. Rhaid i ni ymateb pan rydyn ni'n pryderu bod plentyn wedi dioddef niwed, neu'n debygol o ddioddef niwed. Mae hyn wedi'i amlinellu yn y gyfraith (Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014).

Beth yw ystyr niwed?

Mae sawl math o niwed: corfforol, emosiynol, rhywiol ac esgeulustod. Gall fod yn fwriadol neu'n anfwriadol ac wedi'i achosi gan aelodau'r teulu neu bobl y tu hwnt i'r teulu.

I weld rhagor o wybodaeth ynglŷn â mathau o niwed a phryderon diogelu eraill, bwriwch olwg ar wefan Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg. Bwrdd Diogelu | Diogelu, Cwm Taf Morgannwg (cwmtafmorgannwgsafeguardingboard.co.uk)