Skip to main content

Pryderon brys am ddiogelwch eich plentyn/plant

Os oes pryderon brys am ddiogelwch eich plentyn/plant (neu'r plentyn/plant yn eich gofal), mae modd i'r Gwasanaethau i Blant gymryd camau i fynd i'r afael â hyn drwy'r llysoedd ar unwaith.
  • Mae modd i'r Gwasanaethau i Blant wneud cais am Orchymyn Amddiffyn Brys.  Mae modd i'r gorchymyn yma gael ei gyhoeddi ar unwaith, fel bod modd symud y plentyn i fan diogel.
  • Mae modd i'r Gwasanaethau i Blant wneud cais am Orchymyn Gwahardd. Mae modd i'r gorchymyn yma gael ei gyhoeddi er mwyn symud yr unigolyn sy'n cam-drin y plentyn o'r cartref.
  • Mae modd i'r Gwasanaethau i Blant wneud cais am Orchymyn Asesu Plentyn. Mae hyn yn galluogi Gweithwyr Cymdeithasol i siarad â phlentyn a chynnal asesiad heb ganiatâd ei rieni.
  • Os bydd y Gwasanaethau i Blant yn pryderu y gallai plentyn fod mewn perygl o anffurfio organau cenhedlu benywod, mae Gorchymyn Amddiffyn Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGMPO) yn golygu bod modd cadw dioddefwr neu ddioddefwr posibl yn ddiogel.

Nodwch: Mae modd i'r heddlu symud plentyn i fan diogel am hyd at 72 awr heb orchymyn gan y llys.