Skip to main content

Pa gymorth addysg fydd fy mhlentyn yn ei dderbyn?

Bydd gan bob plentyn sydd â phrofiad o dderbyn gofal/sy'n derbyn gofal ei Gynllun Addysg Personol (CAP) ei hun.

Mae'r CAP yn gofnod o addysg a hyfforddiant eich plentyn. Dylai'r cofnod gynnwys yr hyn sydd angen digwydd er mwyn i'ch plentyn gyrraedd eu potensial addysgol llawn. Mae dyletswydd arnom ni i sicrhau bod pob CAP yn adlewyrchu anghenion addysg y plentyn, ac yn ystyriol o'i oed, gallu a doniau. Dylid bwrw golwg ar y CAP ynghyd â Chynllun Gofal a Chymorth y plentyn gan fod nifer o ffactorau, megis lles a sefydlogrwydd emosiynol, yn effeithio ar ddysgu plant.