Skip to main content

Beth yw Cynllun Gofal a Chymorth fy mhlentyn?

Os yw eich plentyn/person ifanc chi'n "derbyn gofal" neu'n hysbys i ni fel plentyn/person ifanc sydd â phrofiad o dderbyn gofal, rydyn ni'n awyddus i sicrhau ei fod yn derbyn y cymorth cywir i ddiwallu ei anghenion.

Rhaid i bob plentyn sy'n derbyn gofal gael Cynllun Gofal a Chymorth sy'n cael ei adolygu yn ei gyfarfod adolygu (Cynllun Gofal a Chymorth) plentyn sy'n derbyn gofal.

Dyma ddogfen sy'n cynnwys manylion am anghenion eich plentyn a sut rydyn ni'n eu diwallu. Bydd y ddogfen yn cynnwys manylion fel ble mae'r plentyn yn byw, cyswllt â theulu a ffrindiau ac anghenion sy'n ymwneud â diwylliant, crefydd, iechyd, addysg a hamdden. Mae'n bosibl eich bod chi wedi chwarae rhan ym mhroses llunio'r cynllun, ynghyd â'ch plentyn a phobl eraill sy'n gweithio gyda'ch plentyn.

Byddwch chi, gwarcheidwad eich plentyn ac eich plentyn (gan ddibynnu ar ei oed) yn derbyn copi o'r Cynllun Gofal a Chymorth.