Skip to main content

Beth yw Swyddog Adolygu Annibynnol?

Beth yw Swyddog Adolygu Annibynnol (IRO)?

Mae IRO yn Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol profiadol. Prif orchwyl IRO yw sicrhau bod Cynllun Gofal a Chymorth eich plentyn yn diwallu ei anghenion, sicrhau bod cyfle i'ch plentyn leisio'i farn, bod ei hawliau'n cael eu parchu a bod pob penderfyniad er lles iddo. 

Bydd y swyddog yn gwneud hyn drwy fod yn gadeirydd ar gyfarfod adolygu (Cynllun Gofal a Chymorth) eich plentyn, sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg a bod pob mater pwysig yn cael ei drafod. Ar ôl y cyfarfod bydd yn sicrhau bod unrhyw argymhellion neu gamau gweithredu'n cael eu cyflawni.

Beth yw'r gwahaniaethau rhwng Gweithiwr Cymdeithasol a Swyddog Adolygu Annibynnol eich plentyn?

  • Mae Gweithiwr Cymdeithasol eich plentyn yn gyfrifol am wneud penderfyniadau gyda chi, eich plentyn neu bobl bwysig eraill ynglŷn â'r hyn ddylai fod yn rhan o Gynllun Gofal a Chymorth eich plentyn.
  • Bydd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn sicrhau bod y penderfyniadau hynny'n fuddiol i'ch plentyn.