Skip to main content

Beth os oes gan fy mhlentyn riant maeth?

Yn Rhondda Cynon Taf, mae gyda ni rieni maeth ymroddgar gydag ystod o sgiliau gwahanol.

Byddwn ni'n gweithio i sicrhau bod modd i riant maeth eich plentyn ddiwallu ei anghenion penodol. Rydyn ni bob tro'n ceisio dod o hyd i riant maeth sy'n byw mor agos atoch chi â phosibl. Bydd y rhiant maeth yn rhan fawr o sicrhau bod y cynllun ar gyfer eich plentyn (Cynllun Gofal a Chymorth) yn addas.