Skip to main content

Cymorth i rieni sydd wedi'u gwahanu oddi wrth eu plant

Os ydych chi wedi cael eich gwahanu oddi wrth eich plentyn, mae ystod o gymorth cyffredinol ac arbenigol yn ogystal â chyngor ar gael i chi. 

Mae modd i rieni a phlant gael eu gwahanu am nifer o resymau. 

Plant sy'n derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol

Mae rhai rhieni yn cael eu gwahanu oddi wrth eu plant am fod yr Awdurdod Lleol a'r Llys wedi penderfynu mai dyma'r penderfyniad mwyaf diogel ar ran y plentyn. Mewn sawl achos, bydd rhieni yn parhau i dreulio amser â'u plentyn yn unol â chaniatâd yr Awdurdod Lleol, a bydd Gweithiwr Cymdeithasol yn cael ei benodi i roi cyngor a helpu i lywio'r rhieni at y cymorth mwyaf addas.

Mae modd i chi dderbyn gwybodaeth gan y canlynol hefyd:

Cyngor ar Bopeth - Mae gan Gyngor ar Bopeth wybodaeth mewn perthynas â beth fydd yn digwydd os bydd eich plentyn yn derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol. Mae’r wefan yn cynnig gwybodaeth am weld eich plentyn a chadw mewn cysylltiad, beth fydd yn digwydd os yw'r Awdurdod Lleol eisiau newid neu atal cyswllt rhyngoch chi â'ch plentyn, a sut mae modd i chi holi am gynnydd eich plentyn. Am ragor o wybodaeth, ewch i: Os mae eich plentyn chi'n derbyn gofal gan eich Awdurdod Lleol - Cyngor ar Bopeth

Cyswllt â Phlentyn sy'n Derbyn Gofal - Am wybodaeth mewn perthynas â chyswllt â phlentyn sy'n derbyn gofal, gan gynnwys sut i ymgeisio am gyswllt a beth fydd llys yn ei ystyried, ewch i: Cyswllt â Phlentyn sy'n Derbyn Gofal - childlawadvice.org.uk

Cyngor Cyfreithiol i Deuluoedd am ddim ledled Cymru (dewis.cymru)

Cyngor Cyfreithiol Sifil (Plant sy'n Derbyn Gofal) - GOV.UK (www.gov.uk)

Os ydych chi'n feichiog

Mae'r Garfan Magu yn cefnogi pobl sy'n disgwyl babi o 10fed wythnos eu beichiogrwydd hyd nes pen-blwydd cyntaf y plentyn hwnnw. Mae modd i famau a thadau sydd â phrofiad o dderbyn gofal, sydd â phlant eraill nad ydyn nhw yn eu gofal nhw o ganlyniad i ymyriad gan yr Awdurdod Lleol neu'r Wladwriaeth, neu rieni ifainc am y tro cyntaf fod yn gymwys. Er mwyn i chi gael cymorth bydd rhaid i weithiwr proffesiynol sydd eisoes yn gweithio gyda chi, megis bydwraig, gweithiwr 16+, neu weithiwr cymdeithasol, wneud atgyfeiriad. 

Mabwysiadu

Weithiau, mae plant a rhieni yn cael eu gwahanu yn barhaol os yw’r plentyn yn cael ei fabwysiadu. Os yw plentyn yn cael ei fabwysiadu, mae modd i deuluoedd biolegol gael gwybodaeth am gymorth a chyswllt yma Cymorth Mabwysiadu(adopt4vvc.org)

Plant sy'n byw â rhiant arall neu aelod o'r teulu

Mewn sefyllfaoedd eraill, mae modd i rieni a phlant gael eu gwahanu drwy drafodion cyfreithiol preifat, pan fo Llys yn penderfynu pwy y dylai plentyn fyw â nhw. Yn yr achosion yma, efallai nad yw'r Awdurdod Lleol yn ymwneud â'r teulu yn barhaus.

 

Os nad ydych chi wedi ymwneud â'r Awdurdod Lleol, ond dyw eich plant ddim yn eich gofal chi (trafodion cyfreithiol preifat), yna efallai bydd rhai o'r mudiadau canlynol yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol: 

Family Lives - Mae Family Lives yn darparu ymyriadau cynnar wedi'u targedu a chymorth i deuluoedd mewn argyfwng. Mae gyda’r mudiad linell gymorth gyfrinachol am ddim ac mae modd cael sgwrs ar-lein gyda staff am gymorth emosiynol, gwybodaeth, cyngor a chanllawiau mewn perthynas â rhianta a bywyd teuluol. Am ragor o wybodaeth ac er mwyn cysylltu â'r gwasanaeth yma, ewch i: Rhianta a Chymorth i Deuluoedd - Family Lives (Parentline Plus) | Family Lives

Cafcass Cymru - Mae Cafcass yn darparu cyngor a chymorth arbenigol sy'n canolbwyntio ar y plentyn gan ddiogelu plant a sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed mewn llysoedd teulu ledled Cymru. Am ragor o wybodaeth a manylion cyswllt, ewch i: Cafcass Cymru | LLYW.CYMRU

Rhianta ac Iechyd Meddwl - Mae modd i rianta gael effaith ar eich iechyd meddwl felly mae Mind wedi creu rhestr o adnoddau i'ch cynorthwyo chi: Rhianta ac Iechyd Meddwl - Mind

NACCC - Mae The National Association of Child Contact Centres (NACCC) yn elusen sydd â gwasanaethau achrededig o ran hwyluso cyswllt rhwng rhieni a'u plant. Mae’r wefan yn cynnig gwybodaeth i rieni yn dilyn gwahanu ac yn gallu darparu gwybodaeth am hwyluso cyswllt rhyngoch chi â'ch plentyn. Am ragor o wybodaeth, ewch i: Ar gyfer Rhieni ac Aelodau Teulu - NACCC