Skip to main content

Beth yw Cynllun Gofal a Chymorth?

Os yw unigolyn yn gymwys (neu’r sefyllfa yn addas), bydd Cynllun Gofal a Chymorth yn cael ei lunio. Bydd y cynllun yma'n cynnwys manylion am sut bydd y plentyn/plant rydych chi'n gofalu amdanyn nhw'n derbyn cymorth i ddiwallu eu hanghenion.

Pwy fydd yn rhan o'r cynllun yma?

Byddwch chi, eich plentyn a'ch teulu yn rhan o'r gwaith datblygu a bydd yr hyn sy'n bwysig i chi hefyd yn rhan ohono. Mae pobl eraill sy'n debygol o fod yn rhan o'r gwaith datblygu'n cynnwys athrawon, ymwelwyr iechyd, seicolegwyr a gwasanaethau cymorth eraill sy'n ymwneud â bywyd eich plentyn. Gall y cymorth sy'n rhan o'r cynllun gynnwys sefydlu arferion, gwaith un-wrth-un gyda'ch plentyn ynghylch materion megis gwrthod mynd i'r ysgol neu berthnasoedd iach, neu atgyfeiriadau am gymorth gan wasanaethau. Enghraifft o'r cymorth yma yw Women's Aid.