Cerdyn syml yw'r Cerdyn CI, neu'r Cerdyn Cynhalwyr Ifainc, i helpu gweithwyr proffesiynol gan gynnwys meddygon, athrawon a fferyllwyr i adnabod Cynhalwyr Ifainc a rhoi'r cymorth priodol iddyn nhw. Mae'r cynllun cardiau adnabod cenedlaethol yn bartneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Cynhalwyr Cymru a phob awdurdod lleol ledled Cymru ac yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Cerdyn â llun arno yw'r Cerdyn Cynhalwyr Ifainc sy'n cael ei roi gan Gyngor Rhondda Cynon Taf i Gynhalwyr Ifainc dan 18 oed sydd wedi cofrestru gyda'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Gynhalwyr Ifainc ac wedi gofyn am gerdyn.
Mae'r Cerdyn Cynhalwyr Ifainc yn profi bod y person sydd yn y llun yn Gynhaliwr Ifanc a bod ganddo/ganddi gyfrifoldebau gofalu.
Mae'r Cerdyn Cynhalwyr Ifainc am ddim ac mae'n para am 2 flynedd.
Sut mae gwneud cais am Gerdyn CI?
Os ydych chi'n gynhaliwr ifanc, yn rhiant/gwarcheidwad neu'n atgyfeiriwr dibynadwy, mae modd ichi lenwi’r ffurflen gais ar-lein yma
Darllenwch drwy'r Nodiadau Canllaw a'r daflen wybodaeth Cwestiynau sy'n codi'n aml cyn gwneud cais